Gwarchodfa Natur Rhiwledyn

Rhiwledyn

©Mark Roberts / NWWT

Gwarchodfa Natur Rhiwledyn

Dyma ardal fechan hyfryd ar y Gogarth gyda golygfeydd trawiadol o’r môr a bywyd gwyllt rhyfeddol y glaswelltir.

Lleoliad

Llandudno
Sir Conwy
LL30 3AY

OS Map Reference

SH813821
OS Explorer Map OL17
A static map of Gwarchodfa Natur Rhiwledyn

Gwybod cyn i chi fynd

Maint
5 hectares
image/svg+xmlz

Pris mynediad

Na
image/svg+xmlP

Manylion parcio

Parciwch ar y promenâd a cherddwch i fyny at y fynedfa llwybr cyhoeddus
image/svg+xml

Anifeiliaid pori

Defaid, Hydref a Gaeaf
image/svg+xml

Llwybrau cerdded

Llwybrau anwastad, serth mewn mannau. Rhan o'r Llwybr Arfordir Gogledd Cymru

image/svg+xml

Mynediad

Mae Rhiwledyn yn safle serth gyda dringfeydd egnïol sy'n mynd yn llithrig iawn pan mae'n wlyb - mae'n syniad da gwysgo esgidiau priodol. Byddwch yn ymwybodol o'r peryglon sy'n gysylltiedig â chlogwyni, gan gynnwys creigiau'n cwympo a gollwng yn sydyn.

Cŵn

image/svg+xmlAr dennyn

Pryd i ymweld

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Ddiwedd y Gwanwyn ac yn yr haf

Am dan y warchodfa

Blodau ac adar drycin y graig

Yn edrych i lawr am Landudno a draw am Fôr Iwerddon, mae ymweliad â’r warchodfa hon sy’n llawn calchfaen yn cynnig cyfleoedd i brofi bywyd gwyllt y tir a’r môr gyda’i gilydd. Mae blodau’r drain duon a’r eithin yn gefndir melyn a gwyn hyfryd yn ystod y gwanwyn ac yn gysgod i adar bach wrth iddynt adeiladu nythod a magu cywion yng nghanol eu canghennau pigog. Wrth i’r gwanwyn droi’n haf, mae’r blodau gwyllt sy’n llenwi’r glaswelltir yn fwrlwm o liw hefyd: melyn llachar rhosyn y graig yn gymysg â phinc a phorffor y teim gwyllt, y tegeirianau pigfain a’r tegeirianau brych cyffredin. Mae cwningod, sy’n dod allan o’u rhwydweithiau o dwnelau’n wyliadwrus, yn cynnig trefn bori gyson - gan helpu i gadw’r glaswellt yn fyr ac yn berffaith ar gyfer blodau gwyllt. Mae’r gwalch glas, yr hebog tramor a’r cudyll i’w gweld yn hela uwch ben y safle i gyd - does ryfedd bod y cwningod yn ofalus! Wrth i chi ddringo’n uwch, bydd sŵn adar y môr i’w glywed yn gliriach, gyda sain gyfarwydd gwylanod y penwaig yn cyfuno gyda chlwcian mwy anarferol adar drycin y graig sy’n nythu ar y clogwyni islaw. 

Glaswelltir sy’n cael ei bori gan ddefaid  

Mae defaid yn pori’r safle yn yr hydref a’r gaeaf, gan helpu i gadw lefelau nitrogen y pridd yn isel a lleihau’r gystadleuaeth rhwng y blodau gwyllt a’r prysgwydd neu’r glaswelltau mawr yn yr haf. Er bod y prysgwydd yma’n amrywiol a phwysig (yn cynnwys eithin, drain duon, celyn, meryw a choed prifet, sy’n darparu cysgod a bwyd i lawer o adar yn nythu), mae ei ledaeniad yn cael ei reoli er mwyn ei atal rhag tagu’r glaswelltir, ac mae’n cael ei docio a’i dorri ar gylchdro er mwyn cynnal y strwythur oedran amrywiol. Mae’r rhywogaethau anfrodorol, yn enwedig y creigafal, yn cael eu monitro a’u tynnu.  

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r allgraig sy’n sylfaen i Riwledyn wedi’i ffurfio o gwrel a chreaduriaid eraill y môr oedd yn byw yn y moroedd trofannol fwy na 320 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Roedd haenau o’u gweddillion, a adeiladwyd dros amser, yn gorchuddio gwely’r môr ac yn troi’n ffosilau, gan ffurfio’r calchfaen llawn calsiwm rydych chi’n ei weld heddiw. 

Cyfarwyddiadau

Mae Rhiwledyn wedi'i lleoli tua 2 filltir i'r Dwyrain o Llandudno, ar yr Orme Fach. O Gyffordd 20 yr A55, cymerwch y B5115 tuag at Llandrillo-yn-Rhôs / Bae Penrhyn. Wrth ichi agosáu at Llandudno, edrychwch am Dafarn y Craigside ar y Chwith - mae rhywfaint o le parcio cyfyngedig ar gael i ymwelwyr wrth gefn yn y maes parcio uchaf (SH 812 821). I gyrraedd y warchodfa, croeswch y ffordd yn ofalus a cherddwch I'r dde am tua 150m ar hyd y ffordd nes i chi weld y giât i'r llwybr cyhoeddus a'r panel dehongli amlwg (SH 813 821).

Cysylltwch â ni

Luke Jones
Cyswllt ffôn: 01248 351541