Mae Ffordd y Gogledd yn un o dri llwybr cenedlaethol sydd yn eich arwain ar hyd yr arfordir, ar draws gwlad y cestyll a thrwy berfeddwlad fynyddig Cymru. Gyda’i gilydd, cânt eu galw’n Ffordd Cymru.
Mae Ffordd y Gogledd yn dilyn yr hen lwybr masnach ar hyd arfordir y Gogledd i Ynys Môn. Heblaw am drefi glan y môr fel Llandudno, a’r cestyll enfawr megis Conwy a Chaernarfon sydd ar hyd y llwybr 75 milltir (120 km) o hyd, mae’n fan cychwyn ar gyfer siwrneiau i ddarganfod y cefnwlad gwledig. Mae’n leoliad perffaith i fwynhau gwyliau hydrefol/gaeafol pa unai ydych chi’n hoff o fwyd, yn anturiaethwr yn yr awyr agored neu’n caru diwylliant.
Anturiaethau oddi ar Ffordd y Gogledd
Mae yna ddigonedd o bethau eraill i’w gweld oddi ar y prif lwybr hefyd. Oddi yma fe allwch fynd i grwydro mynyddoedd Eryri, Y Fenai a’n hynys fwyaf, Ynys Môn. Mae’n borth i Ddyffryn Conwy hyfryd gyda’i doreth o atyniadau, a Dyffryn Clwyd lle mae cyfres o drefi marchnad tlws yn arwain y ffordd lawr i Langollen. Mae Ffordd y Gogledd yn cysylltu’n hawdd gyda’i chwaer lwybrau, cludiant cyhoeddus a llwybrau i feicio a cherdded yn bell.
Mae’r llwybr yn rhoi sylw i rai o’r profiadau gorau sydd ar gael yn nalgylch Ffordd y Gogledd. Eisoes yn gartref i lagŵn syrffio mewndirol cyntaf y byd a’r gweithgareddau bob tywydd yn Adrenaline Indoors, mae trac ponciog newydd sbon yn Adventure Parc Snowdonia erbyn hyn.
Yn Llandudno, ein cyrchfan glan y môr mwyaf, ceir toreth o nodweddion sydd mewn cyflwr gwych, yn cynnwys pier hiraf Cymru. Mae nifer o’r atyniadau eraill yn cynnwys MOSTYN, oriel gelf gyfoes a modern, a Venue Cymru, adeilad adloniant arweiniol gogledd Cymru. I gael antur awyr agored, ewch draw i’r Gogarth i fwynhau’r llwybrau cerdded a Chanolfan Chwaraeon Eira.
Mae castell aruthrol Conwy yn un o gestyll anhygoel Ewrop. Ar ôl bore yn crwydro’r tyredau a thyrrau, fe fyddwch chi’n barod i fwynhau bwyd a diod lleol. Gerllaw mae gennym fwytai, bragdai a gwinllan sydd wedi ennill gwobrau. Mae distyllfa chwisgi Penderyn sydd newydd yn agor yn Llandudno hefyd yn cynnwys teithiau a dosbarthiadau meistr.
Darganfod Ffordd y Gogledd
Os ydych chi’n chwilio am gymorth i gynllunio eich taith ar hyd Ffordd y Gogledd, rydym wedi creu cyfres o deithlenni â themâu i roi blas i chi ar gyfer eich gwyliau yng Ngogledd Cymru – dyma gasgliad o brofiadau na fyddwch chi’n eu darganfod yn unrhyw le arall!