Yn gryno. Antur dŵr a llewpard yr eira, pandas coch a theigrod Sumatra.
Er bod Bae Colwyn wedi bod yn atynnu ymwelwyr ers oes Fictoria, mae wastad yn barod i symud gyda’r oes. Yn y blynyddoedd diwethaf mae ardal glan môr y dref wedi’i thrawsnewid gyda datblygiad Porth Eirias (cartref i fistro’r cogydd Michelin, Bryn Williams) yn ogystal ag adeiladu traeth newydd. Nid fod ‘na unrhyw beth o’i le gyda thraeth gwreiddiol Bae Colwyn, traeth tywod tair milltir o hyd gyda phromenad o dair milltir a llwybr cerdded ar hyd y môr sydd yn arwain i bentref Llandillo-yn-Rhos.
Mae ein llefydd gwyrdd yn eithaf arbennig hefyd. Mae Bae Colwyn wedi ennill gwobr Cymru yn ei Blodau am ei harddangosfeydd blodau penigamp ar sawl achlysur ac yn 2018 derbyniodd y dref y fraint o ennill Gwobr Aur yr RHS ‘Britain in Bloom’ ar y tro cyntaf.
Ar gyrion y dref mae Parc Eirias, gwerddon 50 erw gyda llyn cychod, llain bowlio, cae chwarae a Chanolfan Hamdden Colwyn. Mae’r parc hefyd yn gartref i Stadiwm Zip World, lleoliad chwaraeon o’r radd flaenaf sydd yn cynnal gemau rygbi enwog a chyngherddau awyr agored poblogaidd.
Tydi’r Bae Colwyn yn yr oes a fu, lle roedd yn un o hoff gyrchfannau glan môr twristiaid cefnog o’r oes Fictoria, heb ddiflannu’n gyfangwbl. Mae pensaerniaeth yr hen dref yn dal i fod yn amlwg gyda’r blaen siopau ac adeiladau addurnedig. Dilynwch Llwybr Treftadaeth Colwyn am fwy o wybodaeth.
Yn rhan annatod o Fae Colwyn ers agor ei drysau fel lleoliad yn 1885, Theatr Colwyn yw un o theatrau a sinemau hynaf Cymru – ac mae’n dal i fynd, a bellach wedi’i foderneiddio i gynnig profiad adloniant ar gyfer yr 21ain ganrif.
Yn ogystal â’r theatr mae gan Fae Colwyn fywyd nos bywiog gyda nifer o dafarndai, bariau a bwytai. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys tafarn feicro sef tafarn a bar yn yr hen weithfeydd argraffu a’r hen siop offer swyddfa Sheldons.
Tu ôl i’r dref mae Coedwig Pwllycrochan, ardal o goedlan hyfryd yn llawn llwybrau troed a llwybrau natur.
Prif atyniad Bae Colwyn ar ben y bryn yw’r Sŵ Fynydd Gymreig – Sŵ Cenedlaethol Cymru. Dyma sŵ sy’n gofalu ac yn gwarchod, gyda nifer o rywogaethau prin ac sydd dan fygythiad o bob cwr o’r byd gan gynnwys llewpardiaid eira, pandas coch, teigrod Sumatra, tsimpansîaid a morlewod Califfornia. Mae plant wrth eu boddau yma.
Cynhelir nifer o wyliau a digwyddiadau gwych ym Mae Colwyn drwy gydol y flwyddyn. Rhai enwau mawr sydd wedi perfformio yn y dref yw Syr Tom Jones, Bryan Adams a Paloma Faith yn difyrru’r cynulleidfaoedd yn Stadiwm Zip World, hwyl yn yr haul yn Prom Xtra, a’r digwyddiad hynod Uke-a-Bay Ukulele a’r Ŵyl 1940au blynyddol.
Dod o hyd i lety ym Mae Colwyn a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.