Yn gryno. Peidiwch â rhuthro drwy’r dyffryn – neu byddwch wedi mynd heibio llawer o’r pethau sydd i’w gweld.
Meddyliwch am Ddyffryn Conwy hardd fel ysbaid gwyrddlas toreithiog, yn y canol rhwng creigiau Eryri a rhostiroedd agored Mynydd Hiraethog. Mae’r ffermdiroedd, glannau’r afonydd a llethrau’r bryniau yn cynnwys nifer o bentrefi bychain gwasgaredig. O’r gogledd i’r de, dyma rai o’r uchafbwyntiau.
Yn Llansanffraid Glan Conwy, mae Afon Conwy yn lledu i gyfarfod â’r môr a cheir yma olygfeydd godidog ar draws yr aber i Gastell Conwy ac Eryri. Mae Melin Ddŵr Felin Isaf ar gyrion y pentref yn felin rawn gofrestredig Gradd II Seren yn dyddio o’r 17eg ganrif, ac roedd yn dal i weithio hyd at 1940 (nid yw ar agor i ymwelwyr ond mae’n werth cael golwg arni). Hefyd gerllaw mae siambr gladdu Hendre Waelod, sy’n dyddio’n ôl i tua 3500CC, ac mae ei chapfaen enfawr yn gyfan o hyd.
Ystyrir pentref Rowen yn un o bentrefi prydferthaf Cymru, ac mae’n hawdd gweld pam. Mae’n bentref bychan, taclus – yn cynnwys ychydig fythynnod, tafarn, eglwys a swyddfa bost yn unig. Perffaith! O’r fan hon gallwch deithio i gyfeiriad y bryniau gan gerdded ar hyd y Ffordd Rufeinig, neu beth am ymweld â Gerddi Dŵr Conwy, lle ceir dyfrgwn, pysgodfa, canolfan ddŵr a thŷ ymlusgiaid.
Saif Eglwysbach, pentref tlws arall, ymron iawn gyferbyn â Rowen yr ochr draw i’r dyffryn. Cadwch lygad am y jamborî blynyddol a gynhelir yma ym mis Awst, dywedir mai hon yw’r sioe amaethyddol a garddwriaethol bentref orau yng Ngogledd Cymru. Dafliad carreg o’r pentref mae Gardd Bodnant, seren arddwriaethol go iawn, ac yn atyniad y mae’n rhaid ymweld ag ef. Mae’r Ardd wedi dod yn fwy adnabyddus fyth yn ddiweddar ers i ddrysau Canolfan Bwyd Cymru Bodnant gael eu hagor.
Mae Adrenalin Dan Do yn cynnwys un o systemau ogofa artiffisial hiraf y DU, waliau dringo a rasio dan do ac yn yr awyr agored, naid ffydd, camp-neidio, ac o bosib y sleidiau mwyaf eithafol i chi fynd arnyn nhw a’r unig sleid cicio eithafol yn y DU. Gall anturwyr hyd yn oed gyflawni weiren wib ar y cyd o’r to a dros y lagŵn syrffio.
Mae Dolgarrog a phentref cyfagos Tal-y-Bont yn ganolfannau da ar gyfer cerdded mynyddoedd y Carneddau a Llyn Eigiau.
Dod o hyd i lety yn Nyffryn Conwy a gweld pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn ardal.