Yn gryno. Tywod a hwyl glan-môr clasurol i’r teulu.
Mae milltir ar ôl milltir o draeth tywodlyd eang yn rhedeg ar hyd arfordir y gogledd ym Mae Cinmel a Thowyn. Mae’r ddau le yn rhannu nodweddion sy’n eu gwneud yn fythol boblogaidd ar gyfer gwyliau i’r teulu – cestyll tywod a ffeiriau pleser, ceffylau bach a chandi-fflos. Ond mae rhai gwahaniaethau …
Mae Bae Cinmel yn denu pobl sy’n mwynhau chwaraeon dŵr yn ogystal â’r rheini sydd am fynd i badlo neu ymdrochi. Mae canŵio a hwylfyrddio yn boblogaidd.
Mae’r rheini sy’n hoffi hwylio a physgota yn anelu am harbwr tlws Bae Cinmel, ond os yw’n well gennych gadw eich traed ar dir sych mae Canolfan Hamdden Y Morfa yn cynnig neuadd chwaraeon aml-bwrpas, dau gwrt sboncen ac ardal chwaraeon allanol aml-ddefnydd.
Mae tref Towyn y drws nesaf yn lle prysur, gyda difyrion ac adloniant ger y traeth, traethau tywodlyd gwych a siopau da. Mae dau atyniad lleol yn denu’r tyrfaoedd. Ym Mharc Hamdden Tir Prince gallwch fwynhau cyfuniad anghyffredin o rasus harnais dull Americanaidd a pharc difyrwch mawr gyda nifer o reidiau – yn ogystal â marchnad allanol wythnosol fwyaf Gogledd Cymru. A phe na bai hynny’n ddigon, mae Parc Hwyl Knightley’s yn ganolfan ddifyrion gyflawn, yn cynnig popeth o gymeriadau mewn gwisgoedd i ffair bleser gyffrous ar gyfer y teulu.
Dod o hyd i lety yn Nhowyn a Bae Cinmel a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.