I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Archwilio > Yr Awyr Agored
YR AWYR AGORED
Pa ddelwedd sydd gennych chi o ogledd Cymru? Arfordir tywodlyd? Cymoedd Gwyrdd? Rhosydd niwlog? Mynyddoedd gwyllt? Rydym yn ticio pob bocs yma yn Sir Conwy. Ewch ar daith o’r traeth yn Llandudno i fyny dyffryn glaswelltog Conwy a chyn bo hir byddwch wedi cyrraedd Betws-y-Coed, sef y porth i fynyddoedd Eryri. Mae’n dirwedd anhygoel o amrywiol, sy’n hawdd ei gyrraedd ac sy’n llawn profiadau amrywiol dros ben yn yr awyr agored.
I ffwrdd â ni
Ni fydd raid i chi deithio’n bell o Landudno i ddechrau ar eich siwrnai ddarganfod. Am gefn gwlad ger y môr, ewch i ddarganfod Parc Gwledig Y Gogarth ar y pentir sy’n ymgodi fel bwystfil morol mawr o bromenâd y dref. Mae’n warchodfa natur arwyddocaol sy'n nodedig am ei phlanhigion prin, ei gloÿnnod byw, ei geifr gwyllt - a golygfeydd anhygoel o arfordir gogledd Cymru ac Eryri.
O boptu i Ddyffryn Conwy mae dau gyrchfan gwahanol iawn, pob un yn brydferth yn ei ffordd ei hun. I’r dwyrain mae Mynydd Hiraethog, rhostir uchel sy’n ymestyn am bellteroedd o dan awyr fawr. Ewch yn syth i ganolfan ymwelwyr Llyn Brenig am gyflwyniad i dreftadaeth a bywyd gwyllt cyfoethog.
Mae bryniau ochr orllewinol Dyffryn Conwy yn cael eu gorchuddio gan Barc Coedwig Gwydir, sy'n rhimyn hyfryd o goetir a llynnoedd cudd y gallwch eu harchwilio ar droed neu ar gefn beic.
Mae’n wych yn yr awyr agored
Dim ond dau o'r gweithgareddau awyr agored niferus yr ydym yn enwog amdanyn nhw ydy cerdded a beicio mynydd. Ar ben hynny mae profiadau llawn adrenalin (gwifrau sip ac ati), chwaraeon dŵr, beicio, dringo, pysgota a golff ar gael.
Gallwch ychwanegu gwylio bywyd gwyllt at y rhestr honno hefyd. Yn ogystal â'r geifr gwyllt a grybwyllwyd yn gynharach, mae adar gwyllt (peidiwch â methu gwarchodfa natur RSPB Conwy), wiwerod coch a gweilch ger Llyn Brenig ac – yn Sw Mynydd Cymru yn Mae Colwyn mae anifeiliaid mwy egsotig fel llewpardiaid, teigrod ac eirth yn cael eu gwarchod dan amodau gofalgar.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl