Siopa
Siopa yn Sir Conwy
Mae gan dref glan y môr Llandudno’r gymysgedd berffaith o siopau modern poblogaidd a siopau annibynnol arbennig.
Dyma un o’n hoff ddiddordebau.
Siopa, hynny yw!
Felly mi fyddwch chi’n falch o wybod bod modd i chi siopa i’r eithaf yn y rhan hon o ogledd Cymru.
Nid cyrchfan glan y môr yn unig yw Llandudno.
Nage wir!
Llandudno yw prif gyrchfan siopa gogledd Cymru, gyda chanolfannau siopa modern a ffasiynol, gan gynnwys Parc Llandudno a’i holl siopau mawr poblogaidd.
Mae gan Landudno hefyd siopau unigryw y cewch hyd iddynt o gwmpas y strydoedd dan ganopi (y 'profiad siopa' dan ganopi gwreiddiol a ddyfeisiwyd gan y Fictoriaid, gyda llaw).
Mae yna siopa da ym Mae Colwyn hefyd.
Mae llawer o'r siopau annibynnol gwych yn fusnesau teuluol.
Os ydych chi’n chwilio am siopau poblogaidd y stryd fawr, yna mae gennym ni’r rheiny hefyd. A chanolfan siopa fawr gyda digonedd o le parcio.
Neu beth am chwilio am fargen yn y farchnad stryd yng nghanol y dref bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn?
Mae yna ddewis da o fân-werthwyr annibynnol unigryw yn Neganwy, lle fedrwch chi chwilota yn y siopau hen bethau neu ddod o hyd i wisg ar gyfer achlysur arbennig.
Mae gan dref Llandrillo-yn-Rhos hefyd ddewis da o siopau.
Mae yno siop fferm yn llawn cynnyrch ffres a dewis da o gaffis, siopau sy’n arbenigo mewn hen bethau, ategolion i’r cartref a gemwaith... ac mae yna hyd yn oed siop yn gwerthu gwisgoedd cyfnod, yr union beth ar gyfer lle mor retro.
Mae waliau hynafol Conwy yn amgáu tref o strydoedd cul ac mae adeiladau hanesyddol i’w gweld ym mhob twll a chornel.
Y lle perffaith i fynd ar daith siopa.
I’ch temtio chi mae yno siop siocled sydd wedi ennill sawl gwobr, cigydd gorau Prydain ac orielau a siop hen bethau ffasiynol.
Ond dydi’r therapi siopa ddim yn dod i ben ar y glannau.
Mae tref farchnad hanesyddol Llanrwst yn dal i gynnal marchnadoedd stryd yn rheolaidd.
Hefyd, mi gewch yno ystod o siopau arbenigedd, gan gynnwys Blas ar Fwyd – un o’r delis gorau yng Nghymru.
A pheidiwch ag anghofio am bentref prysur Betws – ewch i Fetws-y-coed ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos ac fe welwch chi drosoch chi eich hun!
Mae ei gasgliad unigryw o siopau annibynnol ac orielau yn cynnwys siopau sy’n gwerthu dillad awyr agored, crefftau ac anrhegion.
Mae’n ganolfan gerdded boblogaidd ond mae pobl yn dod yma i siopa hefyd – yn y gwanwyn, haf, hydref a'r gaeaf.
A lle gwell, os ydych chi’n hoff o gerdded, i brynu esgidiau cerdded, côt newydd a’r holl fapiau sydd eu hangen arnoch i fynd am dro?
Ym mis Rhagfyr bydd preswylwyr Betws-y-coed yn cynnal noson siopa hwyr – y lle perffaith i chi brynu anrhegion Nadolig unigryw!