I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Gwybodaeth i Ymwelwyr > Cyflwyniad i Dwristiaeth a Lletygarwch yng Nghonwy
Yr wythnos hon 15 i 21 Mai 2023 rydym yn dathlu Wythnos Dwristiaeth Cymru ac rydym wrth ein boddau’n sôn pa mor wych yw ein sir ragorol a’r hyn sydd gennym i’w gynnig!
Ydych chi wedi clywed am ein cwrs Cyflwyniad i Dwristiaeth a Lletygarwch yng Nghonwy rhad ac am ddim ar-lein? Dewch yn un o’r #RhaiSy’nCreuProfiadau a dysgu am Sir Conwy a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn rhan o’r sector hwn sy’n ffynnu!
#WythnosDwristiaethCymru #YRhaiSy’nCreuProfiadau #LlysgennadTwristiaeth #DewchiGonwy #Cymru #Wales #GogleddCymru #SwyddiTwristiaeth
Awyddus i ddysgu rhagor am y sector twristiaeth a lletygarwch yn Sir Conwy? Ddim yn siŵr lle i ddechrau o ran cynaliadwyedd? Eisiau dod o hyd i awgrymiadau o ran rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid neu ganllawiau ar gadw’n ddiogel yn yr awyr agored?
Efallai mai dyma'r cwrs hyfforddiant ar-lein i chi!
P’un a ydych chi’n ystyried eich dewisiadau gyrfa, yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth yn barod, yn breswylydd hirdymor neu’n ymwelydd achlysurol, byddwch chi’n gwneud llawer iawn o ddarganfyddiadau defnyddiol a diddorol pan fydddwch chi’n cofrestru ar ein Cwrs Cyflwyniad i Dwristiaeth a Lletygarwch yng Nghonwy newydd.
Mae’n gwrs ar-lein rhad ac am ddim o bedwar modiwl, yn cynnwys clipiau fideo, cyfweliadau, proffiliau a chwisiau, sydd i gyd wedi’u cynllunio i roi hwb i’ch gwybodaeth, arddangos yr amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa hyblyg sydd ar gael, ac ennyn balchder ac angerdd yn ein rhanbarth bendigedig.
Mae’r modiwlau’n rhwydd i’w dilyn, a gallwch chi ddysgu ar eich liwt eich hun, gartref neu yn y gwaith.
Mae cwis byr am y cynnwys ar ddiwedd pob modiwl. Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 45 munud i’w cwblhau. Dyfernir tystysgrif a bathodyn pin ar ôl cwblhau’r pedwar modiwl yn llwyddiannus.
Mae’r cwrs ar-lein hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
Os hoffech wybod mwy neu i gofrestru yna gallwch wneud hynny ar ein gwefan:
www.llysgennadconwy.cymru
Neu cysylltwch â ni
tourismambassador@conwy.gov.uk
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl