I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Gwybodaeth i Ymwelwyr > Teithio o Gwmpas
Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi dod mewn car. Mae digon o ddewis os ydych am ddefnyddio cludiant cyhoeddus i deithio o amgylch ein rhanbarth. Hyd yn oed os ydych wedi cyrraedd mewn car mae sawl rheswm da pam y dylech ei barcio, ymlacio a gadael i rywun arall eich gyrru.
Mae digonedd ohonynt ac maen nhw’n hawdd eu defnyddio. Mae copïau o’r amserlen fysiau/trenau ar gael yn y Canolfannau Croeso.
Arriva Buses https://www.arrivabus.co.uk/
Trafnidiaeth Cymru - https://tfw.wales/
Ewch i grwydro. Dewch i gasglu eich tocyn crwydro Cymru gan Trafnidiaeth Cymru
trctrenau.cymru i fwynhau pedwar diwrnod o deithio ar drenau a’r mwyafrif o fysiau dros gyfnod o wyth diwrnod. Neu os ydych yn ymweld am y diwrnod, beth am brynu tocyn Rover Gogledd Cymru trctrenau.cymru sy’n eich galluogi i deithio ar drenau a bysiau fel y mynnwch am ddiwrnod llawn.
Fflecsi Conwy - Mae fflecsi yn ffordd wahanol o deithio ar fws ac yn wasanaeth newydd cyffrous mae Trafnidiaeth Cymru yn ei gynnig mewn partneriaeth â’ch gweithredwyr bysiau lleol.
Mae gwybodaeth am gludiant cyhoeddus yng Nghymru ar gael gan Traveline Cymru.
Mae Dyffryn Conwy’n un o ardaloedd prydferthaf Gymru a pha ffordd well i ddarganfod yr ardal hon nag ar drên? Dilynwch y dyffryn wrth i’r trên deithio o brysurdeb yr arfordir drwy gefn gwlad olygfaol i ganol Eryri www.conwyvalleyrailway.co.uk
Mae Sherpa'r Wyddfa yn myndâ chi ar gludiant cyhoeddus o Fetws-y-Coed ac o gwmpas Eryri a’i hatyniadau. P’un ai ydych chi’n cerdded neu’n mynd i weld golygfeydd yn rhywle, dewiswch y dewis gwyrdd a gadewch eich car adref.
Eisteddwch, ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd o gysur ein bysiau. https://www.sherparwyddfa.wales/
Gwefru: Os ydych chi’n defnyddio cerbyd trydan, mae mannau gwefru ar gael ar yr arfordir yn Llandudno, ac i lawr y dyffryn ac ym Metws-y-Coed. Mae rhestr lawn o fannau gwefru ar gael yma.
Ar ddwy olwyn. Mae gennym rai o lwybrau beicio gorau a mwyaf amrywiol y Deyrnas Unedig. Dewch â’ch beic eich hun – neu llogwch feic ar ôl i chi gyrraedd.www.nationalcyclenetwork.org.uk
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl