Nifer yr eitemau: 10
Trefriw
Mae Llyn Crafnant yn 63 erw ac wedi’i stocio â brithyllod seithliw, gan ychwanegu at y brithyllod gwyllt.
Rhos-on-Sea
P’un a ydych yn ddechreuwr neu neu’n unigolyn profiadol, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod wrth bysgod a’ch bod yn cael diwrnod gwych.
Abergele
Mae Tan-y-Mynydd yn hafan bysgota brithyllod. Mae’r tiroedd yn cael eu cynnal a’u cadw fel pin mewn papur ac mae’r bysgodfa mewn ardal o gefn gwlad hygyrch, hardd a thawel yng Ngogledd Cymru.
Rowen
Ar safle Gerddi Dŵr Conwy mae tri llyn pysgota sydd â chyflenwad da o bysgod breision. Mae golygfeydd trawiadol o’r llynnoedd hyn i gyfeiriad Dyffryn Rowen ac mae coetir naturiol a thir amaethyddol o’u cwmpas.
Cerrigydrudion
Diolch i Ddŵr Cymru, mae Llyn Brenig yn ganolbwynt iechyd a lles. Mae’n lle gwych i ymweld ag o i osgoi’r dorf a mwynhau awyr iach wrth i chi gerdded, beicio, pysgota, bwyta ac edmygu’r golygfeydd
Pentrefoelas
Mae llyn dwfn naturiol Llyn Aled yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Mae’n safle anial, ond hyfryd tu hwnt ac dyma un o’r llefydd gorau i bysgota cwrs yn yr ardal.
Corwen
Mae Llyn Brenig yn adnabyddus am ei harddwch a’i ddewis eang o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys pysgota plu ardderchog. Mae’r llyn 920 acer o faint yn cael ei stocio â brithyll seithliw, sy’n cael eu magu ar y safle.
Deganwy
Mae cwmni Sea Fishing Trips yng Nghonwy, Gogledd Cymru yn arbenigo mewn pysgota llongddrylliadau, pysgota môr dwfn a physgota creigresi.
Pentrefoelas
Mae Llyn Aled yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Mae’r safle anial, ond hyfryd hwn sydd dros 250 troedfedd uwch lefel y môr, yn gallu bod yn wyntog, ond dyma le da iawn i bysgota cwrs am ddraenogiaid, penhwyaid bras a chochiaid.
Corwen
Ddŵr Alwen yn lleoliad heddychlon gyda nifer o lannau cysgodol, coediog. Mae’r dyfroedd yn cael eu stocio’n dda â brithyll seithliw, ond mae yma ddigonedd o ddraenogiaid hefyd. Lleoliad delfrydol ar gyfer dechreuwyr.