I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Diwylliant
Mae ‘diwylliant’ yn air anodd i’w ddiffinio.
Gall olygu celf a chrefft, drama a dawns, iaith a threftadaeth, cerddoriaeth a bwyd. Gallwch ymgymryd â phob un o’r rhain – diwylliant yn ei synnwyr llawnaf – yma yn Sir Conwy.
Ond ble ddylech chi ddechrau? Yng Nghanolfan Ddiwylliant newydd Conwy efallai? Yma cewch fynd ar siwrnai hanes miloedd o flynyddoedd gyda chasgliadau, gwaith celf ac arddangosfeydd rhyngweithiol yn eich cyfeirio.
Ddoe a heddiw
Mae’r ganolfan mewn adeilad cyfoes a thrawiadol yn agos at gastell canoloesol Conwy. Mae’r cyfuniad hwn o’r hen a’r newydd, y traddodiadol a’r modern, yn cyfleu amrywiaeth eang ein hasedau diwylliannol. Ewch i Landudno, er enghraifft, am gymysgedd o gelf arloesol yn MOSTYN (un o orielau celf cyfoes mwyaf blaenllaw y DU) a champwaith y dref Fictoraidd ei hun, sy'n enwog am ei glan y môr cwbl gadwedig o'r oes o'r blaen.
Mae Venue Cymru yn Llanduno yn chwarae rhan flaenllaw ym myd adloniant gogledd Cymru. Mae’n llwyfan i Opera Genedlaethol Cymru a chomedi amgen, cynyrchiadau o’r West End a chorau meibion. Ym Mae Colwyn mae Theatr Colwyn sef theatr a sinema weithredol hynaf Cymru – ac mae’n dal i fynd mor gryf ag erioed .
Clywch, blaswch...
Mewn sawl ffordd rydym yn ficrocosm o Gymru. Fel glywch ac fe welwch y Gymraeg wrth fynd o gwmpas – wedi’r cyfan mae’n rhan annatod o’n diwylliant a'n hunaniaeth. Ond mae mwy iddi na thelynau, cennin a merched mewn gwisg Gymreig. Y dyddiau hyn mae'r iaith yn rhan o fywyd diwylliannol llawn bwrlwm a blaengar sydd ymhell o fod yn draddodiadol.
Gallwch weld, clywed - a blasu - ein diwylliant hefyd. ‘Yr hyn a fwytwn a fyddwn’, meddai’r dywediad. Mae’r hyn yr ydych yn ei fwyta yn dweud llawer am y lle yr ydych yn bwyta hefyd – yn enwedig os ydych mewn lle fel Sir Conwy, sydd â phantri haelionus o gynnyrch lleol yn amrywio o gregyn gleision blasus tref Conwy i gig Eidion Du Cymreig arobryn a fagwyd ar weirgloddiau glas Dyffryn Conwy.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl