Nifer yr eitemau: 12
Llandudno
Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd a phromenâd llydan yng nghysgod penrhyn godidog Pen y Gogarth.
Llanfairfechan
Mae traeth tywod hir Llanfairfechan pan mae’r llanw’n isel yn hyfryd ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc. Mae ganddo olygfeydd gwych o Ynys Môn, Afon Menai a Phen y Gogarth.
Kinmel Bay
Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda phromenâd cul ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Penmaenmawr
Traeth tywod hir gyda phromenâd sydd wedi’i adnewyddu yn ddiweddar. O Benmaenmawr fe welwch Afon Menai a’i holl gyfleusterau sy’n ei wneud yn gyrchfan boblogaidd i deuluoedd.
Llandudno
Mae Traeth Penmorfa yn Llandudno yn lle llawer tawelwch na Thraeth y Gogledd sy’n llawn bwrlwm. Dyma draeth tywodlyd sy’n boblogaidd iawn gyda phobl ar wyliau.
Penmaenmawr
Wedi’u lleoli mewn ardal drawiadol ar arfordir Gogledd Cymru nepell o’r A55. Gyda golygfeydd gwych o Ynys Môn ac Ynys Seiriol, mae traeth Penmaenmawr yn lleoliad poblogaidd iawn gydag ymwelwyr a thrigolion lleol.
Colwyn Bay
Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau golygfeydd lan y môr o’r promenâd newydd a’i seddi deniadol ac ardaloedd wedi tirlunio.
Abergele
Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth sy’n cysylltu gyda Bae Colwyn i’r gorllewin.
Abergele
Mae’r traeth cerrig mân hyfryd hwn gyda’i bromenâd, yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol ar gyfer y promenâd, sydd hefyd yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Colwyn Bay
Llandrillo-yn-Rhos yw cefnder sydêt Bae Colwyn.
Penrhyn Bay
Mae traeth Bae Penrhyn ar Lwybr Arfordir Cymru ac mae yna lwybrau arfordirol hefyd i Fae Colwyn neu Fae’r Gogarth gerllaw.
Conwy
Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd, sy’n ffurfio rhan o’r traethau tywydd a banciau cregyn gleision helaeth Bae Conwy. Mae’n lleoliad da ar gyfer pysgota, mae yma farina ac mae cwrs golff gerllaw.