I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Gwybodaeth > Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r cynnwys a gyhoeddir ar barth https://cy.visitconwy.org.uk/ Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd yn rheoli’r wefan o dan y brand Dewch i Gonwy / Visit Conwy. Rydym am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny yn golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae’r wefan yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod. Rydym yn gweithio ar y rhannau hyn o’r safle ac wedi ymrwymo i gynhyrchu safle hygyrch ar gyfer pob defnyddiwr.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Baich anghymesur
Mae’r wefan yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Dangosir manylion y wybodaeth a eithriwyd o dan reoliad 4(2) a rheoliad 7(4) isod.
Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys ar ein safle wedi ei adolygu a’i ailysgrifennu fel ei fod yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WLAG). Fodd bynnag, rydym wedi archwilio nifer o dudalennau lle mae rhwyddineb darllen y cynnwys yn wael. Rydym wedi asesu cost cywiro’r dogfennau hynny ac rydym o’r farn y byddai cost y gwaith hwn yn faich anghymesur fel yr amlinellir yn y rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau bod unrhyw dudalennau newydd a ychwanegir o 23 Medi 2020 ymlaen yn bodloni Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).
Sut i wneud cais am gynnwys mewn fformat hygyrch
Os oes angen gwybodaeth mewn fformat wahanol arnoch, cysylltwch â ni a dywedwch wrthym:
Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at tourism@conwy.gov.uk neu drwy ffonio 01492 575950.
Dolenni
Byddwch yn ymwybodol y gallai rhai dolenni agor mewn ffenest newydd. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau mai dim ond â gwefannau dibynadwy rydym yn cysylltu. Fodd bynnag, ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd am gynnwys a gwybodaeth gwefannau y cysylltir â nhw, na dibyniaeth ar wybodaeth a gynhwysir ynddynt
Adrodd am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon
Rydym yn croesawu adborth ar hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i rywbeth nad oes modd i chi ei agor, neu ein bod wedi methu nodi rhwystr, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.
Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio un o’r dulliau isod:
E-bost: tourism@conwy.gov.uk Ffôn: 01492 575950
Gweithdrefn Orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut byddwn yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i sicrhau fod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (rhif 2) 2018.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Awst 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 22 Medi 2020.
Profwyd y wefan ddiwethaf ar 17 Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan ein tîm ein hunain a brofodd sampl o dudalennu gwe er mwyn gwirio safonau hygyrchedd.
Rydym yn penderfynu ar ein tudalennau samplu drwy nodi’r tudalennau mwyaf poblogaidd ar ein gwefan a gwirio pa mor hygyrch ydynt.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl