Pethau i’w Gwneud
Petaem yn rhoi ein meddwl ar waith, mae’n siŵr y byddem yn gallu meddwl am weithgareddau a phethau i’w gwneud a fyddai’n cynnwys yr wyddor gyfan.
Mae ‘A’ yn hawdd – Atyniadau (mae digonedd o’r rhain). Mae ‘Y’ yn eithaf hawdd hefyd. Ymdrochi – mae gennym ddewis eang o draethau tywodlyd, braf.
‘B’ am Bwytai a Bodnant, ‘C’ am Crefftau, Cestyll neu Canŵio … ac yn y blaen.
Un tro, amser maith yn ôl – wel, ddim mor bell yn ôl a hynny, mewn gwirionedd – roeddem yn ddigon hapus i dreulio’n gwyliau yn eistedd ar y traeth. Heddiw, os ydych am fwynhau gwyliau o’r fath rydych yn teithio i wlad dramor, ond gall hwn fod yn brofiad digon diflas erbyn heddiw wrth ddelio â strach y meysydd awyr.
Llawer gwell yw gwneud rhywbeth ar eich gwyliau – fel y mae llawer ohonoch eisoes wedi’i ddarganfod.
Heddiw, mae llawer o’n hymwelwyr yn awyddus i gael profiadau newydd neu gymryd rhan yn eu hoff weithgaredd neu ddiddordeb hamdden. Maen nhw’n dilyn llwybrau cerdded a threftadaeth, o bosibl yng nghwmni tywysydd. Neu maen nhw’n torri eu llwybrau’u hunain i ddarganfod ein trysorau cudd.
Bydd y rheini sy’n mwynhau chwaraeon dŵr am roi cynnig ar weithgareddau megis barcudfyrddio a phadlfyrddio wrth sefyll sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd. Byddant yn siŵr o fynd ar eu hunion i Ganolfan Chwaraeon Dŵr wych newydd Bae Colwyn.
Mae gan fwyd, diod a siopau ran bwysig i’w chwarae hefyd. Mae ein bwyd yn ffres, iachus a lleol iawn (meddyliwch am gregyn gleision Conwy a chig oen mynydd blasus) ac mae digon ar gyfer y siopwyr hefyd (Llandudno yw prif ganolfan siopa Gogledd Cymru).
Ac ar ôl iddi dywyllu, Venue Cymru yn Llandudno yw’r lle delfrydol i fwynhau pob math o adloniant – o opera i gerddoriaeth boblogaidd, o ddrama i gomedi amgen.
I ddarganfod mwy am bethau penodol i'w gwneud yn un o'n trefi gwych, fel Betws-y-Coed, Abergele, Rhos-on-Sea, Llanrwst, Towyn a Deganwy, ymwelwch â'n hadran trefi a phentrefi.
Os ydych chi'n bwriadu rhoi cynnig ar rai o'r prif bethau i'w gwneud yn Sir Conwy, yna rydyn ni'n argymell yn gryf eich bod chi'n aros am ychydig ddyddiau er mwyn i chi allu ffitio popeth i mewn.