I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Gwybodaeth i Ymwelwyr > Mwynhau’r Awyr Agored yng Nghonwy’n Ddiogel
Rydym eisiau i bawb fwynhau ymweld â Sir Conwy, felly cofiwch wneud y pethau bychain a fydd yn helpu i’ch gwarchod chi, pobl eraill, ein cymunedau a’r amgylchedd.
Mae pawb yn mwynhau mynd i’r traeth ac felly i helpu i sicrhau eich bod chi’n mwynhau ein harfordir arbennig, edrychwch ar ragolygon tywydd yr ardal a byddwch yn ymwybodol o unrhyw rybuddion diogelwch lleol am beryglon posib’. Dyma nodyn atgoffa cyfeillgar gan griw lleol y Bad Achub
Gwyliwch y ddwy fideo yma am fwy o gyngor gan Sefydliad y Badau Achub:
Diogelwch ymwelwyr ar y môr gyda’r RNLI – YouTube
Water Safety Advice And Tips – Know The Risks (rnli.org)
Banciau tywod, Penmorfa, Llandudno
Dyma’ch canllaw i fwynhau ein parciau a’n cyrsiau dŵr, yr arfordir a chefn gwlad.
Dilynwch y ddolen hon i weld y canllawiau llawn gan Gyfoeth Naturiol Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru / Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i’r rhai sy’n ymweld â chefn gwlad
Mynydd y Dref, Conwy
Os ydych chi’n cynllunio antur awyr agored ar yr arfordir neu yn y mynyddoedd, ewch i gael golwg ar wefan Mentro’n Gall Cymru (www.adventuresmartwales.com). Bydd eu cyngor am y tywydd, cyfarpar a sgiliau’n eich helpu i fod yn ddiogel.
Peidiwch â bwydo’r gwylanod – mae gwylanod yn sborionwyr naturiol a gallant droi’n ymosodol wrth geisio dwyn bwyd o’ch dwylo neu oddi ar eich plât.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl