Nifer yr eitemau: 8
Deganwy
Sefydlwyd Clwb Hwylio Conwy yn 1911, ac mae’n un o’r rhai hynaf yn yr ardal. Cynhelir rasys yn rheolaidd yn ystod yr haf ac mae’r clwb hefyd yn cynnig cyfleusterau cymdeithasol gyda byrddau snwcer a phŵl, teithiau i chwarae golff a mwy.
Nr St Asaph
Canolfan gweithgareddau awyr agored mewn lleoliad trawiadol ond hygyrch ac sy’n cynnig dros 20 o weithgareddau tir a dŵr ar y safle.
Colwyn Bay
Sefydlwyd Clwb Jet-sgi Colwyn yn 1996 i annog pobl i ddefnyddio badau dŵr yn ddiogel. Mae’r Clwb wedi’i gydnabod gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol fel Sefydliad Addysgu Cyrsiau Badau Dŵr Personol.
Rhos-on-Sea
Clwb Hwylio lleol, yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae’r adran cychod criwser ar gynnydd. Rhaglen ar gyfer cychod pleser drwy’r haf.
Y clwb yw un o’r clybiau hwylio mwyaf yng Ngogledd Cymru.
Llandudno
Mae Clwb Hwylio Llandudno yn glwb aelodau sy’n cynnig hwylio arbenigol a diogel ar nos Fercher a phrynhawn Sul.
Cerrigydrudion
Clwb Hwylio Llyn Brenig yw’r clwb uchaf yng Ngogledd Cymru, 1200 troedfedd uwchlaw lefel y môr ar gronfa ddŵr Llyn Brenig.
Penmaenmawr
Cyfleusterau hwylio ardderchog gyda 18 o gychod y clwb ar gael i roi cynnig ar hwylio. Yn hwylio’n rheolaidd ddydd Sadwrn a dydd Sul o fis Ebrill.