Nifer yr eitemau: 10
Llandudno
Mae Neuadd a Sba Bodysgallen, wedi’i leoli mewn 230 erw o erddi a pharcdir llawn coed, yn neuadd nodedig Gradd 1 o’r ail ganrif ar bymtheg sy’n mwynhau golygfeydd godidog o’i gerddi ffurfiol hyd at Gastell Conwy a mynyddoedd mawreddog Eryri.
Llandudno
Mae Gwesty’r Imperial sydd wedi ennill gwobrau, gwesty Pedair Seren mwyaf Llandudno, yn sicrhau ceinder a rhagoriaeth a golygfeydd trawiadol ar draws y bae o'i leoliad canolog ar y Promenâd.
Llandudno Junction
Os ydych yn edrych am le ychwanegol, boed hynny ar gyfer cynnal cyfweliadau, cynhadledd neu arddangosfa, neu i ddianc rhag ymyrraeth galwadau ffôn ac e-byst i gynnal sesiwn trafod syniadau, gallwn eich helpu yma yng Nghanolfan Fusnes Conwy.
Llandudno
Mae Gwesty'r Dunoon yn westy pedair seren AA, 66 ystafell wely, sy'n cael ei redeg yn deuluol, ac wedi'i leoli rhwng Pen Morfa a Thraeth y Gogledd ar Stryd Gloddaeth.
Conwy
Mae Bodlondeb yn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi’i leoli rhwng mynyddoedd mawreddog a thywod euraidd Conwy, gyda golygfeydd godidog dros yr aber tuag at Landudno a Deganwy.
Llandudno
Llety gwely a brecwast bwtic cyfoes hynod boblogaidd a llwyddiannus yn Llandudno yw Escape. Mae’n cynnig llety nodweddiadol, steilus a moethus mewn fila Fictoraidd unigryw.
Colwyn Bay
Mae Canolfan Ddigwyddiadau Eirias yn cynnig prif gyfleusterau i aelodau o’r cyhoedd, trefnwyr digwyddiadau a thimau a chlybiau chwaraeon proffesiynol.
Llandudno
Os ydych chi’n chwilio am leoliad sydd ychydig yn arbennig, yna Venue Cymru yw’r lle i chi. Wedi’i lleoli yn Llandudno, gyda’r mynyddoedd a’r arfordir yn gefndir i ni, mae ein canolfan yn cynnig y diweddaraf mewn cyfleusterau cynadledda pwrpasol.
Betws-y-Coed
Arferai’r Royal Oak fod yn dafarn i goetsis yn Oes Fictoria ac fe saif yng nghanol pentref Betws-y-Coed. Tirlun godidog Eryri o’n cwmpas sydd wedi dylanwadu ar ddyluniad ein hystafelloedd sydd â gwelyau cyfforddus a defnyddiau a dodrefn moethus.
Llandudno
Mae Gwesty’r St George’s mewn safle arfordirol ysblennydd ar y Promenâd yn edrych dros Fae godidog Llandudno.