I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Gwybodaeth i Ymwelwyr > Cyrraedd
Dyma un o’n manteision pennaf – gallwch gyrraedd yr ardal yn gyflym ac yn hwylus wrth deithio ar y ffordd neu’r rheilffordd o’r rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig.
Mae cyrraedd yma o dramor hefyd yn ddigon hawdd drwy ddefnyddio un o brif ganolfannau cludiant Prydain.
Ar drên
Ceir gwasanaethau trên o’r rhan fwyaf o Brydain i drefi glan môr poblogaidd gogledd Cymru.
I’r tir mae rheilffordd olygfaol Dyffryn Conwy yn rhedeg o Landudno i fyny’r dyffryn a thrwy Barc
Cenedlaethol Eryri i Fetws-y-Coed ac yna ymlaen i Flaenau Ffestiniog, lle gallwch chi wedyn ddal trên Rheilffordd Ffestiniog.
Gwefannau defnyddiol:
I ymwelwyr o dramor, mae BritRail Pass britrail.com yn cynnig dull rhad o deithio ledled y Deyrnas Unedig (rhaid prynu’r tocyn cyn gadael eich gwlad)
Ar fws
Mae’r National Express yn cynnig gwasanaethau uniongyrchol o Lundain, Manceinion a Lerpwl, gyda chysylltiadau o ran fwyaf o drefi Prydain. www.nationalexpress.com
Mewn car
Mae cyrraedd Conwy o ogledd orllewin Lloegr yn hawdd ar yr M56 a’r A55. Mae yna hefyd gysylltiadau traffordd da gyda chanolbarth Lloegr, ac mae’r un ffyrdd, sef yr M6, M5 a’r M1, hefyd
yn golygu bod gogledd Cymru o fewn cyrraedd hawdd i’r rheiny sy’n teithio o dde Lloegr.
Gwybodaeth am y ffyrdd/cyfrifwr pellter: www.theaa.com neu www.rac.co.uk
Mewn awyren
Ar y môr
Mae Irish Ferries a Stena Line yn cynnig gwasanaethau cyflym a rheolaidd I Gaergybi o Ddylyn.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl