I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Byddwch yn sylwi fod gan rai darparwyr llety ar y wefan hon radd sêr. Mae graddau sêr yng Nghymru yn cael eu dyfarnu gan Croeso Cymru a’r AA yn seiliedig ar ansawdd y cyfleusterau sydd ar gael.
Mae pob un o’r cyrff asesu cenedlaethol (Visit England, VisitScotland, Croeso Cymru a’r AA) bellach yn asesu llety gwyliau i’r un gofynion, ac yn dyfarnu un i bump seren. Mae’r sêr yn adlewyrchu ansawdd cyffredinol y profiad.
Byddwch yn ymwybodol bod cyfranogiad yn y cynlluniau graddio hyn yn wirfoddol.
Beth mae Graddio yn ei olygu i chi?
Pan yn dewis llety gwyliau, chwiliwch am gyfeirnod Cymru/Wales, sef cyfeirnod ansawdd swyddogol, cenedlaethol, cynllun asesu ansawdd Cymru. Yna, gallwch fod yn hyderus ei fod wedi cael ei wirio cyn i chi gyrraedd.
Mae tîm o aseswyr proffesiynol, yn ymweld â phob lleoliad bob yn ail flwyddyn, gan gynnwys llety sy’n cael ei redeg gan asiantaethau hunanddarpar. Croeso Cymru yw’r brif asiantaeth asesu ar gyfer llety yng Nghymru.
Beth yw ystyr y system radd sêr?
Mae busnesau sydd wedi eu graddio yn derbyn gradd sêr rhwng 1 a 5 seren, yn seiliedig ar y cyfleusterau sydd ar gael, ac ansawdd cyffredinol y profiad. Mae yna dair elfen ynghlwm â phrosesu a dyfarnu Gradd Sêr ar gyfer busnes.
1. Ansawdd Busnes
Mae ein Haseswyr Ansawdd yn asesu pob agwedd o fusnes, ac mae’r sgôr yna yn cyfateb i ddisgrifiad lefel ansawdd. Defnyddir graddfa o 1 i 5 - mae Ansawdd Rhagorol yn sgorio 5 pwynt, ac Ansawdd Derbyniol yn sgorio 1 pwynt.
Unwaith i bob agwedd gael eu hasesu, mae pob sgôr yn cael eu rhoi gyda’i gilydd ac mae sgôr ansawdd ar gyfer y busnes cyfan yn cael ei gyfrifo.
2. Cysondeb ym Meysydd Allweddol y Busnes
Bydd yr Aseswr Ansawdd yna yn edrych am gysondeb yn y meysydd allweddol. Bwriad y ffordd hon o fynd ati yw i sicrhau nad oes un agwedd o’r busnes sydd wedi derbyn sgôr uchel wedi gwthio’r canran cyffredinol i fyny i’r gradd sêr nesaf, gan roi’r argraff anghywir i’r gwestai ynghylch yr ansawdd yn gyffredinol. Mae’n hollbwysig fod ansawdd y meysydd allweddol yn cyd-fynd gyda gradd gyffredinol y busnes.
3. Gofynion Cyfleusterau
Bydd yr Aseswr Ansawdd yn gwirio i sicrhau fod unrhyw gyfleusterau/gwasanaethau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer safon penodol yn bresennol ac ar gael, yn ogystal â’r rheiny ym mhob lefel sêr blaenorol. Mae ymchwil yn dangos fod cwsmeriaid yn disgwyl mwy o gyfleusterau a gwasanaethau pan fo’r gradd yn uwch.
Ydy gradd sêr is yn golygu ansawdd is?
Gall sawl llety sydd wedi eu graddio yn is fod yn darparu ansawdd uchel, ond ddim yn cyrraedd yr holl ddisgwyliadau cyfleusterau a gwasanaeth sy’n ddisgwyliedig ar gyfer lefel gradd sêr uwch.
Er enghraifft, mae Croeso Cymru yn gosod gwahanol feini prawf, a mwy o feini prawf gofynnol, pan yn asesu Gwestai na pan maent yn asesu busnes Llety Gwesteion (e.e. Gwely a Brecwast, Tŷ Llety).
Mae hyn yn seiliedig ar ymchwil defnyddwyr, sy’n dangos fod yna ddisgwyliad y bydd Gwestai, o ran eu natur, yn darparu mwy o gyfleusterau na Gwely a Brecwast a Thai Llety. Mae’r meini prawf graddio yn adlewyrchu hyn, felly mae’n bwysig yn arbennig peidio cymharu Llety Gwesteion gradd 4-seren gyda Gwesty gradd 4-seren. Mae’r meini prawf yn wahanol.
Y cyngor - dylid gwirio gyda’r cwmni cyn bwcio i wneud yn siŵr eu bod yn cynnig y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd ei hangen arnoch. Byddant yn fwy na pharod i fod o gymorth.
Beth yw’r gwahanol gategorïau llety?
Mae llety gwyliau yn amrywio o ran steil, ac felly mae gwahanol gynlluniau graddio yn berthnasol i wahanol fathau a steiliau o fusnes. I’ch cynorthwyo i ddewis, mae’r cynllun graddio newydd yn cynnwys ‘dynodwr’ i ddisgrifio’r steil llety y gallwch ei ddisgwyl, er enghraifft:
I gael rhagor o wybodaeth fanwl am y graddio a’r dyfarniadau, ewch i Croeso Cymru
yma
Cynlluniau Graddio AA
Ar gyfer gwybodaeth am raddio a dyfarniadau AA: www.theaa.com
Adborth ar gynnyrch sydd wedi ei raddio gan Croeso Cymru
Ambell dro, ni fydd ansawdd ein cynnyrch yn cwrdd â’ch disgwyliadau. Mae eich barn yn bwysig i Croeso Cymru, ac mae gwybodaeth bellach ar y dudalen Adborth Cwsmeriaid.
Sylwch: Mae rhestrau llety ar y wefan hon er gwybodaeth yn unig. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn argymell unrhyw ddarparwyr llety ac awgrymwn i ymwelwyr wirio’r cyfleusterau, graddau ansawdd ac adolygiadau cyn archebu llety.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl