Am
Does dim llawer o bethau’n dweud ‘gwyliau glan môr’ fel mynd am dro ar hyd y pier, ac mae Pier Llandudno’n drysor go iawn!
Ychydig o hanes Pier Llandudno
Gyda'i statws Rhestredig Gradd II, mae'n bier glan môr traddodiadol yn dyddio o ddiwedd y 1800au gydag amrywiaeth o siopau, caffis, bariau ac atyniadau - sy'n cynnig hwyl i'r teulu cyfan!
Yn ymestyn 2,295 troedfedd (700m) dros y môr, Pier Llandudno yw'r hiraf yng Nghymru, ac mae’n un o’r gorau yn y DU, a chafodd ei bleidleisio’n "Bier y Flwyddyn 2005" gan aelodau Cymdeithas Genedlaethol y Pierau.
Adeiladwyd y pier haearn rhagorol hwn mewn dau gam - agorwyd y rhan syth (o’r giât ger Y Fach) i'r cyhoedd ar 1 Awst 1877. Cafodd y gangen, sydd bellach yn rhoi’r brif fynedfa i Bier Llandudno o'r promenâd ei hychwanegu ym 1884.
Pethau i'w gwneud ar Bier Llandudno
Yn ychwanegol at y siopau, sy’n gwerthu nwyddau yn amrywio o fwcedi a rhawiau, canhwyllau ac eitemau retro i gawsiau a chwrw Cymreig, mae dwy arcêd ddifyrion. Mae Leisure Island a leolir ar ben y promenâd y Pier ar agor drwy gydol y flwyddyn (ac eithrio Dydd Nadolig). Ar ben y pier, mae'r Deck Arcade yn 'Arcêd Geiniogau’ sy’n dal i gynnwys yr hen gemau a pheiriannau slot yn darparu adloniant ar gyfer pobl o bob oed.
Mae yna hefyd reidiau ffair a llithren y bydd plant iau wrth eu bodd â hi - mae'r rhain wedi'u lleoli tua hanner ffordd ar hyd y pier.
Ar ben y pier, mae 'na far lle gallwch fwynhau diod, a chaffi ar wahân i gael pryd o fwyd blasus, hufen iâ neu gacen i’ch temtio yn y prynhawn. Os ydych chi’n dal awydd dal eich swper eich hun mae yna lwyfan pysgota.
Does dim rhyfedd bod Pier Llandudno yn parhau i fod yn un o brif atyniadau Llandudno!
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
- Gwasanaeth arlwyo
Cyfleusterau Darparwyr
- Mynediad Anabl
- Siop
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
- Yn derbyn partïon bysiau
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Plant a Babanod
- Cyfleusterau newid babanod