I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Treftadaeth > Safleoedd Hanesyddol a Gerddi
Yn gryno. Cerrig hynafol, mannau gwyrdd.
Pa fath o hanes sydd at eich dant? Hanes dirgel neu guddiedig? Hanes sy’n dathlu mawredd a cherrig milltir pwysig? Gallwn gynnig y cyfan, o gylchoedd cerrig llawn awyrgylch a luniwyd yn y cyfnod cynhanesyddol, i gestyll canoloesol sydd ymhlith y gorau yn y byd.
Bydd yn rhaid i chi chwilota am y math cyntaf - ond dyna hanner yr hwyl. Beth am ddechrau ar rostiroedd unig Mynydd Hiraethog a dilyn y Daith Archeolegol o lannau Llyn Brenig i ddarganfod safleoedd cuddiedig megis gwersyll o’r Oes Cerrig a siambr gladdu o’r Oes Efydd.
Ar bentir y Gogarth, fry uwchben tref Llandudno, gallwch weld golygfeydd rhyfeddol o dan y ddaear yn ogystal ag ar yr wyneb. Mae archaeolegwyr wedi darganfod yr hyn a dybir yw mwynglawdd copr cynhanesyddol mwyaf y byd – byddwch yn barod i weld rhyfeddodau ar eich taith danddaearol. Mae Llandudno ei hun yn agoriad llygad hefyd. Mae’r dref yn bictiwr o berffeithrwydd wrth ddwyn i gof pensaernïaeth ac awyrgylch oes Victoria.
Cafodd y darn celf symudol hynaf i’w ganfod yng Nghymru ei adfer o Ogof Kendrick ar y Gogarth. Mae’n debyg fod y darn hwn o asgwrn ceg ceffyl, wedi’i addurno â phatrwm igam-ogam dirgel, wedi bod yn rhan o seremoni gladdu fwy na 13,500 mlynedd yn ôl.
Ewch i Amgueddfa Llandudno i ymchwilio i’r bennod ryfedd a phell hon yng ngorffennol Llandudno.
Mae bryngaerau’r Oes Efydd ac Oes yr Haearn ar gopaon llawer o fryniau’r ardal. Nodweddion amlwg eraill ar y tirlun yw’r cestyll, rydym yn arbenigo ynddynt. Mae’r rhain yn amrywio o gaerau mynyddig cadarn megis Castell Dolwyddelan i Gastell Conwy, sy’n Safle Treftadaeth y Byd.
Mae llawer mwy i Gonwy na hyn. Y castell yw dechrau eich taith hanesyddol epig sy’n cynnwys muriau’r dref a pherlau canoloesol megis Tŷ Aberconwy a Phlas Mawr – heb anghofio Pont Grog gastellog ysblennydd Thomas Telford.
I lawr y dyffryn yn Llanrwst saif math gwahanol iawn o gastell. Mae Castell Gwydir yn enghraifft wych - a phrin - o blasty Tuduraidd sy’n llawn awyrgylch y cyfnod ac yn gartref i ysbryd (a pheunod).
Mae gerddi Gwydir yn uchafbwynt arall. Rydym yn adnabyddus am ein mannau gwyrdd lluosog – ac un o’r mwyaf adnabyddus yw Gardd Bodnant, un o brif atyniadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n cyfuno ardaloedd ffurfiol perffaith â choedtir gwych. Gerllaw, mae Gerddi Dŵr Conwy hefyd yn atyniad difyr. Ac mae Llandudno’n cadarnhau ei enw da fel cyrchfan glan-môr gwerth ei halen gyda thraeth hyfryd Y Fach, sy’n gwir haeddu bod yn enillydd Gwobr glodfawr y Faner Werdd. Seren flodeuog arall yw Bae Colwyn, sydd wedi ennill gwobr Cymru yn ei Blodau am bedair mlynedd ar ddeg yn olynol.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl