I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Gwybodaeth i Ymwelwyr > Llysgennad Twristiaeth Conwy > Llysgenhadon Aur Conwy - yn eu geiriau eu hunain
Mae Wythnos gyntaf Llysgennad Cymru yn cael ei chynnal rhwng 20-26 Tachwedd 2023.
Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw amlygu’r cynllun drwy ddathlu’r Llysgenhadon presennol ac annog rhagor o bobl i ddod yn Llysgenhadon.
Dyma rai o’r sylwadau gwych ’rydym wedi’u derbyn yn ddiweddar:
Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fyw yng Ngogledd Cymru. O fy nghartref gallaf ymweld â thraethau hyfryd, tirweddau mynyddig a bryniau godidog. Gallaf fynd allan a gwylio’r haul yn machlud o frig bryngaer hynafol neu fynd am dro i’r pwynt lle mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr gan fwynhau’r golygfeydd sy’n newid drwy’r amser mewn goleuadau gwahanol.
Yr hyn yr wyf yn ei garu am fod yn Llysgennad Twristiaeth Cymru yw fy mod yn gallu ehangu fy ngwybodaeth am y lle hyfryd yr wyf yn ei alw’n gartref, a’i rannu gydag eraill ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel bod modd iddynt hwythau fwynhau’r lle arbennig hwn hefyd, wyneb yn wyneb, neu drwy fy lluniau.
Fy nghyfrif Instagram yw @jens_cymru
Mae bod yn llysgennad twristiaeth i Gonwy yn ffordd wych o ddysgu a throsglwyddo gwybodaeth am yr ardal hyfryd yr ydym yn byw ynddi.
Mae’r gwesteion yn ein gwely a brecwast yn Nhrefriw wir yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth a chyngor y gallwn ni ei roi iddynt, ac mae cael gwybodaeth ddiddorol a defnyddiol i’w rannu am yr ardal leol - wedi’i roi iddynt mewn modd angerddol, brwdfrydig a gyda hygrededd - yn wych i ni fel busnes, ond hefyd i bawb arall sy’n croesawu ymwelwyr yma.
Crafnant House - Gwely a Brecwast
Nid wyf yn byw yng Nghymru mwyach ar ôl gadael Conwy i symud i Frwsel ychydig dros flwyddyn yn ôl. Mi wnes i ddod ar draws y cynllun Llysgennad a meddwl y byddai’n ffordd dda o gynnal fy nghysylltiad â Chonwy a dysgu pethau newydd am fy sir enedigol y gallaf eu defnyddio i hyrwyddo Cymru a Chonwy yng Ngwlad Belg.
Mae’r cwrs yn un pleserus ac mae wedi’i osod allan mewn modd hygyrch ac ymgysylltiol sy’n eich caniatáu i ddysgu mwy am hanes a diwylliant Conwy, hyd yn oed os ydych chi eisoes yn gyfarwydd iawn â’r ardal.
Rwyf wir yn mwynhau rhyngweithio gyda thwristiaid yn ein hardal hyfryd yn enwedig ar Gei Conwy. Mae gennyf safleoedd cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ffotograffiaeth a digwyddiadau yn yr ardal. Mae Ribster13 Photography Media yn adnabyddus o gwmpas yr ardal ac mae gwenu a chwerthin bob amser yn mynd lawr yn dda. Er hynny, hoffwn y cyfle i ennill incwm o’r gwaith hwn gan fy mod yn treulio oriau yn ei wneud.
Rwyf wir yn argymell y cynllun llysgennad ac i mi, rwyf bellach yn llysgennad ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub hefyd a ddeilliodd o’r cynllun hwn.
Mae gennym ein cyfrif X (Twitter) ein hunain hefyd star@captainconwy sy’n cefnogi’r dref.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl