Bwyd a Diod
Mae ein cefn gwlad, ein hafonydd a'n moroedd dilychwin yn ffynonellau gwerth chweil o fwyd a diod.
Os ydych yn ymweld â’r ardal am y diwrnod neu ar wyliau byr, ar wyliau hirach neu’n byw ac yn gweithio yn yr ardal, cewch ddarganfod amrywiaeth eang o fwyd a diod a llefydd i fwyta yng Ngogledd Cymru.
Yn ardal Conwy mae llu o fwytai, caffis, tafarndai, siopau tecawê a bwyd cyflym, yn ogystal â nifer o westai gyda bwytai.
Mae tref Llandudno a chyrchfannau eraill yn sir Conwy yn cynnig amrywiaeth eang o fwydydd, yn cynnwys bwydydd Ewropeaidd, Indiaidd, Tsieineiadd a Thai, yn ogystal â bwydlenni Cymreig a Phrydeinig.
Mae’n hawdd dod o hyd i gynnyrch lleol y gallwch ei brynu i fynd adref gyda chi, a chynhelir nifer o ddigwyddiadau bwyd poblogaidd yng Ngogledd Cymru yn cynnwys Ffair Fêl Conwy a'r marchnadoedd gwledig.