Nifer yr eitemau: 12
Llandudno
Cwrs golff antur/mini 18 twll y tu allan i Ganolfan y Copa. Cwrs heriol i bob grŵp oed.
Penrhyn Bay
Mae Cwrs Golff Llandrillo-yn-Rhos yng Ngogledd Cymru yn gwrs parcdir gwastad yn bennaf, sy'n cynnig her deg i'r golffiwr cyffredin ac yn brawf da i'r rhai sydd â handicap is.
Abergele
Golffdroed - Golff gyda pheli mwy! Mae golffdroed yn cyfuno'r gorau o ddwy gamp genedlaethol, pêl-droed a golff.
Betws-y-Coed
Mae gan Glwb Golff Betws-y-Coed gwrs golff naw twll taclus dros ben, sydd wedi’i leoli yng nghalon Gogledd Cymru, ar odre trawiadol mynyddoedd Eryri sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol.
Llandudno
Mae Clwb Golff Gogledd Cymru yn nhref glan môr heulog Llandudno, gyda golygfeydd gwych dros foryd Conwy i Ynys Môn a mynyddoedd Eryri.
Abergele
Silver Birch yw un o’r cyrsiau talu a chwarae mwyaf poblogaidd ar sîn golffio Gogledd Cymru lle rydym yn #MethrinyDechreuwr ac yn #Herio’rProfiadol!
Llanfairfechan
Mae cwrs golff parcdir Llanfairfechan yn cynnig cefnlen fynyddig fendigedig, golygfeydd gwych dros y Fenai i Ynys Môn, a gallwch chwarae dwy rownd o naw twll o wahanol diau gyda rhai lawntiau ychwanegol.
Rhos-on-Sea
Mae Golff Gwyllt Rhos Fynach yn gwrs golff gwyllt 9 twll gwych, perffaith i’r teulu cyfan. Gyda’r môr y tu ôl i chi, gallwch daclo’r castell, cwch môr-ladron a’r goleudy i fynd o amgylch y cwrs.
Conwy
Profiad golffio unigryw ar gwrs safon pencampwriaethau. Gwahoddwn ni chi i wynebu’r her, edmygu’r olygfa a mwynhau’r croeso.
Abergele
Mae Clwb Golff Abergele’n glwb golff o ansawdd uchel sy’n agored i bawb. Dywedir mai dyma un o’r cyrsiau harddaf yng Nghymru.
Penmaenmawr
Fe gewch hyd i Glwb Golff Penmaenmawr ar ffin Parc Cenedlaethol Eryri yn swatio wrth droed Bwlch Sychnant mewn lleoliad godidog rhwng y mynyddoedd a’r môr.
Llandudno
Mae gan Glwb Golff Maesdu y cyfan: Cwrs o ansawdd Pencampwriaeth, dros gan mlynedd o hanes, golygfeydd godidog, a'r croeso cynhesaf ar y cwrs ac yn y Clwb.