Mae gennym ddewis arbennig o drefi a phentrefi, cyrchfannau glan-môr, a chuddfannau mynyddig. Mae ein profiadau ‘glan-môr’ yn amrywio o atyniadau graenus – a chlasurol – tref Fictoraidd Llandudno i bleserau’r ffair mewn mannau megis Towyn a Bae Cinmel. Mae gennym gyrchfannau mawr (gwych ar gyfer siopa a chodi cestyll tywod) a chyrchfannau bychain (gwych ar gyfer mynd am dro a gwylio’r machlud haul anhygoel), trefi hanesyddol megis Conwy a’i chastell, glannau ffasiynol megis Deganwy a datblygiad glan-môr Bae Colwyn sy’n cynnwys canolfan chwaraeon dŵr cyffrous a thraeth newydd sbon.
I gyfeiriad y tir mawr teithiwch drwy Ddyffryn Conwy, coridor gwyrdd godidog sy’n arwain o’r môr i fynyddoedd Eryri. Peidiwch da chi â rhuthro, mae’r dyffryn a’r ardal amgylchynol yn gartref i nifer o bentrefi tlws a threfi gwledig hardd megis Llanrwst. Mae’r lle yn llawn hanes ac atyniadau, yn cynnwys sêr go iawn megis Gardd Bodnant.
Ar un ochr i’r dyffryn mae llethrau o rostiroedd grug, llynnoedd a choedwigoedd Mynydd Hiraethog. Nid ydym yn ymddiheuro am roi sylw arbennig i’r ucheldir hwn – mae’r enw yn golygu “mynydd eithinog”. Mae’r darn hwn o dir yn cael ei esgeuluso’n aml, ac fe allech golli cyfle i ddysgu mwy am yr ardal swynol a hardd hon a’i phentrefi bychain, traddodiadol sy’n werth chweil eu darganfod.
Mae pawb wedi clywed sôn am Fetws-y-Coed. Dyma’r cyrchfan fynyddig sy’n ticio’r blychau i gyd – lleoliad gwych ger y porth i Eryri, cyfleusterau gwych a siopau gwych. Nid yw’n syndod bod y lle’n brysur trwy gydol y flwyddyn.
Beth yw eich hoff lefydd yn Sir Conwy? Cysylltwch â ni drwy Facebook, Twitter ac Instagram.