I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Llety > Gwybodaeth am y System Raddio > Adborth Cwsmeriaid
Ydych chi eisiau rhoi gwybod i ni am eich ymweliad diweddar i Sir Conwy? Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth a hoffwn glywed am eich profiad – y da a’r drwg!
Adborth cadarnhaol
Ydych chi newydd ddychwelyd o’r gwyliau gorau yn Sir Conwy? Rydym yn gobeithio hynny, a hoffwn glywed amdano. Os hoffech roi gwybod i ni am eich gwyliau, anfonwch e-bost i tourism@conwy.gov.uk. Rhowch wybod i ni beth wnaeth eich gwyliau yn un mor arbennig. Rydym eisiau clywed am yr unigolion a’r busnesau a’ch helpodd chi i gael y gwyliau gartref gorau yn ein rhanbarth hardd. Lle bynnag bosibl, byddwn yn anfon eich sylwadau cadarnhaol ymlaen i’r unigolion / busnesau a enwir.
Beth i’w wneud os oes gennych gŵyn cyffredinol
Mae’n flin iawn gennym os na wnaeth eich ymweliad i Sir Conwy fodloni eich disgwyliadau. Os mai dyma’r achos, rhowch wybod i ni beth aeth o’i le fel y gallwn ymchwilio a cheisio gwella ar hyn yn y dyfodol. Anfonwch neges e-bost i tourism@conwy.gov.uk
Llety gwyliau heb ei raddio gan Croeso Cymru na’r AA
Os ydych angen gwneud cwyn am lety gwyliau sydd wedi’i restru ar y wefan hon sydd heb gael graddfa gan Croeso Cymru na’r AA, ac os ydych eisoes wedi cwyno i berchennog neu reolwr y sefydliad yn ystod, neu ar ôl eich arhosiad, anfonwch e-bost i: tourism@conwy.gov.uk
Llety gwyliau wedi’i raddio gan Croeso Cymru
Os ydych yn gwneud cwyn am lety gwyliau sydd wedi’i raddio gan Croeso Cymru, dilynwch y weithdrefn gwyno a amlinellir isod.
Sut i wneud cwyn
Yn achlysurol, efallai nad yw ansawdd eich llety gwyliau yn bodloni eich disgwyliadau. Mae gan Croeso Cymru weithdrefn mewn grym i ddelio â chwynion defnyddwyr. Mae Croeso Cymru yn eich annog i wneud sylwadau am eich llety gwyliau i’r perchennog neu’r rheolwr ar adeg eich ymweliad. Wrth wneud hyn, rydych yn rhoi cyfle i’r perchennog ddelio â’ch sylwadau ac efallai ei bod yn bosib gwneud eich arhosiad yn un gwell.
Cwynion yn erbyn darparwyr llety sy’n cymryd rhan mewn cynlluniau graddio Croeso Cymru
Gall Croeso Cymru ond ystyried ymchwilio i gwynion am ddarparwyr llety os ydynt yn cymryd rhan mewn un o gynlluniau graddio Croeso Cymru yn unig.
Anfonwch fanylion eich cwyn iddyn nhw ar y cyfeiriad isod o fewn 14 diwrnod i’ch ymweliad.
Adran Sicrhau Ansawdd, Croeso Cymru
Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR
Rhif ffôn: 0845 010 8020
E-bost: quality.tourism@gov.wales
Sylwch: Ni all Croeso Cymru na’r Tîm Twristiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gymryd rhan mewn anghydfodau o natur ariannol. Mae sefydliadau a all gynnig canllawiau ar gyfer y math hwn o gwyn, gweler y dolenni isod:
Yn y sefyllfaoedd hyn, awgrymwn i ddefnyddwyr ddilyn y dolenni isod am ragor o wybodaeth am eu hawliau cyfreithiol.
Safonau Masnach: www.tradingstandardswales.org.uk
Cyngor ar Bopeth: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl