Am
Mae maes carafanau Abaty Maenan ger Betws-y-coed mewn lleoliad delfrydol mewn tiroedd diarffordd wedi’u tirlunio, ar safle mynachlog o’r drydedd ganrif ar ddeg, Abaty Maenan. Dafliad carreg yn unig oddi wrth westy a bwyty gwych gyda bar lolfa clyd, mae cyfle am bryd o fwyd maethlon neu ddiod gyda ffrindiau o hyd. Mae’r maes carafanau wedi’i rannu gan waliau cerrig sych gwreiddiol ac mae golygfeydd anhygoel o gwmpas – anhygoel i’w gweld yn y bore.
Bydd y maes carafanau hwn ym Metws-y-coed yn teimlo fel cartref oddi cartref, gyda’r holl amwynderau sydd eu hangen arnoch am amser cyfforddus a rhwydd. Mae croeso i gŵn yn y maes carafanau, felly gallwch ddod â’r teulu cyfan i fwynhau eich amser yng ngogledd Cymru gyda’ch gilydd. Mae digonedd o fannau awyr agored i chi fynd am dro a chwarae gyda’ch cyfaill pedair coes.
Mae awyrgylch cyfeillgar a chymunedol i’r maes carafanau. Mae mannau bwyta awyr agored i chi fwynhau bwyta ynddynt yn y lleoliad hardd hwn. Mae ardal picnic, barbeciw a phatio gyda digonedd o le i ffrindiau, teulu a chymdogion fwynhau bwyta gyda’i gilydd.
Mae WiFi ar gael ym mhob rhan o’r maes, ac mae golchdy ar y safle sy’n golygu y gallwch chi dreulio gymaint o amser ag a hoffech yma heb orfod poeni am redeg allan o ddillad glân. P’un a ydych chi’n dod am arhosiad byr, neu’n chwilio am gartref gwyliau ym Metws-y-coed, mae rhywbeth i bawb ym maes carafanau Abaty Maenan.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 1
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Fesul uned yr wythnos | £340.00 fesul uned yr wythnos |
*O £340.00 i £750.00 yr uned yr wythnos.
Cyfleusterau
Arall
- Bed linen provided
- Gwres canolog
- Short breaks available
- Wireless internet
Cyfleusterau Darparwyr
- Wifi ar gael
TripAdvisor
Sgôr Teithwyr TripAdvisor:
- Service
- Value
- Cleanliness
- Location
- Ardderchog6
- Da iawn1
- Gweddol0
- Gwael0
- Ofnadwy0