Am
Mae Capel Seion yn enghraifft wych o gapel traddodiadol Cymreig a adeiladwyd yn ystod oes aur adeiladu capeli yn y 19eg Ganrif (1819). Mae’r drysau a’r ffenestri pengrwn yn nodweddiadol o gapeli a adeiladwyd yn ystod y cyfnod hwn. Roedd hyn yn fodd o wahaniaethu’r adeilad oddi wrth adeiladau eraill yn y pentref, gan sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn fan addoli.
Mae gan y capel nifer o nodweddion diddorol, gan gynnwys cynllun sgwâr yr adeilad, tri llwybr y tu mewn yn hytrach na’r ddau arferol, a’r nenfwd sydd â rhosynnau wedi eu peintio arno.
Y tu mewn, cewch weld arddangosfa o hanes yr adeilad a’r emynydd enwog, William Williams, Pantycelyn.
Cynhelir gwasanaeth Saesneg ar y 3ydd Sul o bob mis.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Yn y wlad