I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Archwilio > Yr Awyr Agored > Parc Gwledig y Gogarth
Mae’r Gogarth yn fynydd bychan yn Llandudno, sydd â chyfoeth o hanes a byd natur.
Ni allwch ei fethu. Mae ar ddiwedd y prom, ger pier hiraf Cymru.
Darn anferthol o galchfaen yw pentir y Gogarth, gan godi 207m/679 troedfedd yn syth allan o’r môr. Does dim rhyfedd mai ‘anghenfil y môr’ oedd yr enw rhoddodd y Llychlynwyr arno.
Er ei fod yn fawr ac yn drwm, mae’n lleoliad cyfeillgar hefyd. Mae hwn yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Llandudno, ynghyd â Punch a Judy a’r mulod ar y traeth.
Neidiwch ar y car cebl neu dramffordd y Gogarth a byddwch ar y copa mewn dim, lle mae’r Canolfan Ymwelwyr (ar gau yn ystod y gaeaf). Gallwch gyrraedd y copa drwy gerdded neu yrru hefyd.
Mae copa’r Gogarth yn un o’r lleoliadau gorau i archwilio daeareg, archeoleg, bywyd gwyllt a hanes diddorol y pentir hwn. Credir ei fod dros 350 miliwn o flynyddoedd oed.
Mae’r Gogarth yn cael ei gydnabod fel Parc Gwledig, Ardal Cadwraeth Arbennig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Arfordir Treftadaeth. Mae’r cynefinoedd gwahanol yn amrywio o rhostiroedd cyfoethog i glogwyni môr a glaswelltir calchfaen i goetir. Maent yn cefnogi amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt.
Mae rhai rhywogaethau, megis y brain coesgoch, yn brin iawn. Mae eraill, fel y glesyn serennog, yn unigryw i’r Gogarth.
Chewch chi ddim trafferth o gwbl yn dod o hyd i’w drigolion enwog, y geifr Kashmir gwyllt a’u cotiau gwyn blewog a’u cyrn dychrynllyd.
I ddysgu mwy am hanes y Gogarth, gallwch ddilyn y llwybr natur o Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth. Mae pwyntiau gwybodaeth ar hyd y llwybr sy’n adrodd stori y pentir.
Mae Mwynglawdd Hynafol y Gogarth, mwynglawdd Oes Efydd mwyaf y byd, hefyd yn werth mynd i weld.
A’r ffordd cyflymaf i fynd yn ôl at lefel y môr? Sgïo, eirafyrddio, eira-diwbio neu dobogan o Ganolfan Llethr Sgïo ac Eirafyrddio Llandudno (nid oes angen eira).
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl