I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Beth Sydd ‘Mlaen > Tymhorol
DIGWYDDIADAU TYMHOROL
Rydym yn bobl brysur yn yr ardal hon. Mae rhywbeth yn digwydd o hyd, beth bynnag fo’r tymor, beth bynnag fo’r tywydd.
Ewch i’r theatr yn Llandudno (nid theatr gyffredin mohoni, dyma'r fwyaf a'r orau yng ngogledd Cymru), lle mae Venue Cymru yn llwyfannu popeth o gomedi i opera, drama i ddawns.
Mae Gardd Bodant yn berl gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n disgleirio trwy gydol y flwyddyn. Dewch i weld y Bwa Tresi Aur enwog ar ddiwedd y gwanwyn / dechrau’r haf, neu dewch am dro ar hyd ‘Llwybr Coed Lliwiau’r Hydref’, un o nifer o deithiau cerdded tywysedig a digwyddiadau arbennig a gynhelir yma yn rheolaidd.
Am fwy o bethau gwyllt (gan gynnwys tegeirianau) mae Gwarchodfa Natur RSPB Conwy. Mae adar yn mynd ac yn dod gyda thro’r tymhorau – dysgwch fwy am uchafbwyntiau tymhorol trwy alw i mewn i un o’r digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu cynnal yno.
Dim ond tri rheswm i ymweld â ni ar unrhyw adeg o’r flwyddyn yw Venue Cymru, Bodnant a Gwarchodfa Natur Conwy. Mae pob tymor yn dod â rhywbeth arbennig i’n morlin, ein bryniau a’n mynyddoedd.
Lapiwch i fyny... ar gyfer gwyliau gaeafol
Dewch o hyd i dafarn glud (lle tân yn hanfodol) ar ôl cerdded yn oerfel Eryri y gaeaf hwn. Efallai y cewch ddathlu Nadolig Gwyn i fyny yno hyd yn oed, ond un peth sy’n siŵr, gallwch fwynhau siopa am anrhegion Nadolig arbennig mewn lleoedd fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos.
Mae Ffair Nadolig Llandudno yn adnabyddus am ei naws Nadoligaidd a thrwy gydol misoedd Tachwedd a Rhagfyr mae llawer i chi ei fwynhau. O anturiaethau mentrus a bwyd a diod blasus, a golygfeydd hyfryd. Rhowch gynnig ar ogledd Cymru ar gyfer eich gwyliau gaeafol nesaf.
Dewch i ddathlu’r Flwyddyn Newydd mewn gwesty glan y môr cyfforddus neu helpwch ni i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen (santes y cariadon fel y Sant Ffolant Saesnig) ar 25 Ionawr.
Mae’r gwanwyn yn dymor o ddechreuadau newydd: y gwrid cyntaf o wyrddni ar hyd Dyffryn Conwy hardd a’r awgrym cyntaf o wres yr haf ar hyd yr arfordir. Ac wrth gwrs ar ddiwrnod cyntaf mis Mawrth rydym yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, nawddsant Cymru, gyda digonedd o gennin pedr, cennin, dawnsio a llawer o hwyl.
Erbyn gwyliau banc y Pasg a mis Mai, bydd pethau yn eu hanterth. Dyna pryd mae’r haf yn cyrraedd go iawn, pan fydd digonedd o bethau i’w gwneud bob dydd – o sioeau ‘Punch & Judy’ ar y prom i gelfyddydau, cerdded a gwyliau cerddorol.
Erbyn yr hydref mae pethau’n tawelu ychydig – amser delfrydol i lapio i fyny a mynd am dro ar y traeth neu mewn coedwig (sy'n edrych yn rhyfeddol o frowngoch ar yr adeg hon o'r flwyddyn). Neu ewch draw i Gonwy ar gyfer un o wyliau bwyd gorau Cymru.
Cyn bo hir bydd yn Nadolig... a dyna lle daethom i mewn.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl