Am
Clwb Hwylio Llyn Brenig yw’r clwb uchaf yng Ngogledd Cymru, 1200 troedfedd uwchlaw lefel y môr ar gronfa ddŵr Llyn Brenig. Gyda golygfeydd godidog o Eryri a Hiraethog, mae Clwb Hwylio Llyn Brenig yn lle braf i fynd â’r gwch a mwynhau natur.
Yn hwylio ers 1981, mae Clwb Hwylio Llyn Brenig yn cynnig aelodaeth i bobl o bob gallu. Mae’r clwb yn annog plant ac yn cynnig aelodaeth iau. Gydag 20 o angorfeydd o ansawdd uchel, 2 bontŵn, llithrfa a storfa ar gyfer cychod dros y gaeaf yn y maes parcio, mae’r clwb wedi meddwl am bopeth i gynnig y profiad gorau posibl i chi.
Agorodd y Tywysog Siarl Llyn Brenig yn 1976. Cymerodd 3 blynedd i’r gronfa ddŵr lenwi. Dŵr Cymru sy’n cynnal y gronfa ddŵr.
I ymuno, ewch i wefan Clwb Hwylio Llyn Brenig https://brenigsailing.club/.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Hamdden
- Cyfleusterau chwaraeon dw^r
- Gweithgareddau Dw^r