Am
Mae Llyn Aled, llyn naturiol dwfn, yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Nid oes unrhyw goed yn tyfu ar lannau’r llyn ac mae’r safle anial, ond hyfryd hwn sydd dros 250 troedfedd uwch lefel y môr, yn gallu bod yn wyntog, ond mae’r rhostiroedd a’r golygfeydd o amgylch yn odidog. Mae lliw oren y dŵr yn adlewyrchu natur fawnog y rhostiroedd sy’n amgylchynu’n llyn, ac mae yma ddigonedd o ddraenogiaid, penhwyaid bras a chochiaid ar gyfer y pysgotwyr. Gallwch gael mynediad at y llyn drwy ddilyn y lôn fynyddig gul o’r A543, ger y fan lle mae’r nant yn llifo o’r llyn.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Croesawgar i gŵn
- Lleoliad Coedwig
- Yn y wlad