Nifer yr eitemau: 1001
, wrthi'n dangos 981 i 1000.
Trefriw
Bwthyn cerrig clyd, traddodiadol ar lannau hyfryd Llyn Crafnant gyda golygfeydd a lleoliad arbennig.
Rhos-on-Sea
Tafarn a bwyty ar lan y môr sy’n croesawu cŵn a phlant, gyda gardd gwrw fawr yn Llandrillo-yn-Rhos yn gweini bwyd tafarn ffres, blasus.
Penmaenmawr
Chwe bwthyn gwyliau helaeth ar ystâd breifat ar ochr bryn ym Mhenmaenmawr, gyda golygfeydd godidog, a physgodfa brithyll gwych ar y safle.
Llandudno
Mwynhewch de prynhawn traddodiadol, brecwast hwyr neu ginio yng nghanol Llandudno yn y busnes teuluol hwn.
Llandudno
Gwesty clyd sy’n agos at holl amwynderau’r dref, bariau a bwytai, y traeth, y pier a Phen y Gogarth.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Penmaenmawr
Tafarn wledig draddodiadol gyda chroeso cynnes Cymreig yng nghanol Dwygyfylchi.
Llanrwst
Man llogi beiciau trydan yn Llanrwst yn agos at Goedwig Gwydir, Dyffryn Conwy ac Eryri.
Llandudno
Hwylfan Bonkerz, un o’r cyfleusterau chwarae meddal dan do gorau o’i fath yng Ngogledd Cymru. Beth am ddod â’r plant am sesiwn llawn hwyl yn Bonkerz, dewch i gyfarfod y tîm a mwynhau diwrnod allan i’r teulu, nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Upper Colwyn Bay
Does dim byd arbennig am du blaen Pen-y-Bryn, ond y tu mewn fe welwch loriau derw hyfryd, tanau agored, cypyrddau llyfrau a hen ddodrefn.
Llandudno
Siop goffi bach ond cyfeillgar sydd wedi’i leoli yng Nghraig-y-Don a’u cenhadaeth yw i’ch helpu i ddarganfod eich cwpaned perffaith o goffi.
Llandudno
Ffotograffwyr sepia hen ffasiwn. Dewch i gael llun sepia o’ch hun wedi’i ail-greu, a gadewch i’ch ffrindiau ddyfalu ai chi ynteu un o’ch cyndadau sydd yn y llun!
Abergele
Beth am gael saib ar eich taith yng Nghaffi a Bar Castle View ar hyd y llwybr beicio ym Mhensarn. Croeso i bawb!
Llandudno
Mae Gwesty 4 seren Adcote House gyda gwely a brecwast yn cynnig llety o ansawdd yn gyfan gwbl i oedolion a dewis o ystafelloedd gwely cyfforddus a steilus.
Conwy
Bwyd cyflawn, salad a bar coffi yng nghanol tref gaerog ganoloesol Conwy.
Llandudno
Bwthyn gwyliau celfydd gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol, gyda dwy ystafell wely, ym Mhenmorfa, sy’n cysgu 4 oedolyn. Gardd fach gaeedig â phatio, Wi-Fi ar gael, dillad gwely a gwasanaethau wedi eu darparu, a man parcio penodedig oddi ar y ffordd.
Betws-y-Coed
Cafodd Caffi Conwy Falls ei ddylunio gan Syr William Clough Ellis i gyd-fynd â saernïaeth Portmeirion. Mae wedi’i leoli ym Mharc Coedwig Conwy Falls sydd bron i 10 erw o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Conwy
Mae NWT Direct yn arwain y farchnad yn y DU am weithgynhyrchu a chyflenwi rheiddiaduron wedi’u gwneud yn bwrpasol, rheiddiadur i dywelion, gwresogyddion panel trydan ac ystod eang o nwyddau i’r ystafell ymolchi.
Llandudno
Mae Providero yn siop goffi arbenigol sydd dafliad carreg i ffwrdd o’r Gogarth yn Llandudno. Mae’n ganolbwynt cyfeillgar i bobl leol ac ymwelwyr ac yma fe weinir coffi, cacennau a chinio ysgafn tymhorol o ansawdd uchel.