Nifer yr eitemau: 1087
, wrthi'n dangos 961 i 980.
Cerrigydrudion
Mae Cronfa Ddŵr Alwen yn llyn 900 erw - y llyn gwneud mwyaf yng Nghymru. Mae yna lwybr o gwmpas y llyn sy’n berffaith ar gyfer beicio, cerdded neu farchogaeth. Mae yna hefyd ganolfan sgïo dŵr.
Penrhyn Bay
Siop frechdanau/coffi ym Mae Penrhyn sy’n defnyddio cyflenwyr Cymreig lleol.
Conwy
Yng nghanol Conwy, mae Pen-y-Bryn yn adeilad traddodiadol o’r unfed ganrif ar bymtheg.
Abergele
Rhywle i chi a'ch ffrindiau pedair coes! Cewch eich syfrdanu gan yr holl ddewis o ddanteithion i gŵn sydd gennym i’w cynnig.
Abergele
Gwasanaeth tacsi ar gyfer Llanddulas a’r ardaloedd cyfagos.
Llandudno
Bar caffi a bwyty trwyddedig teuluol sy’n arbenigo mewn bwyd blasus, cacennau cartref a diodydd yng nghanol tref glan môr Fictoraidd hardd Llandudno.
Llandudno
Mae St Kilda yn westy mawr ar y ffrynt yn Llandudno. Agorwyd yn 1854, mae’r gwesty yn dangos gorffennol Fictoraidd y dref. Yn agos at y pier a Venue Cymru, mae St Kilda yn lle gwych i fwynhau eich gwyliau.
Colwyn Bay
Sefydlwyd Clwb Jet-sgi Colwyn yn 1996 i annog pobl i ddefnyddio badau dŵr yn ddiogel. Mae’r Clwb wedi’i gydnabod gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol fel Sefydliad Addysgu Cyrsiau Badau Dŵr Personol.
Llandudno
Delicatessen yn cynnig caws a chigoedd hallt, cynnyrch crefft, caws fegan a chynnyrch fegan.
Conwy
Mae’r Tŷ Crempog Iseldiraidd enwog yn unigryw i’r ardal ac yn cynnig dewis o 65 o grempogau gwahanol, melys a sawrus, wedi’u coginio yn y ffordd draddodiadol gyda chynhwysion ffres.
Colwyn Bay
Yn ymestyn dros 80 erw ac â mwy na 250 o flynyddoedd o hanes garddwriaethol, mae Gardd Bodnant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys pum teras Eidalaidd, dolydd blodau gwylltion, coetir a gerddi ar lannau’r afon.
Colwyn Bay
Nid yw ymweliad â Conwy Garden World yn gyflawn heb fynd draw i Lavender Tea Rooms.
Conwy
Mae Hinton’s yn siop lyfrau ac anrhegion bach annibynnol yn nhref hanesyddol Conwy.
Dolgarrog
Wedi’i leoli yn harddwch Dyffryn Conwy rhwng Trefriw a Dolgarrog, mae Drysle Dyffryn Conwy’n unigryw.
Llandudno
Does dim angen mynd dim pellach na Gear Menswear i ddod o hyd i’r dillad mwyaf cyfoes i ddynion.
Llandudno
Beth am roi cynnig ar Barnacles i fwynhau pysgod a sglodion traddodiadol ar lan y môr? Cewch fwyta i mewn neu ddewis bwyd i fynd.
Llandudno
Mae Parker's Welsh Rock and Gift Shop wedi bod yn masnachu ers dros 30 mlynedd.
Llandudno
Mae Clifton Villa’n cynnig llety â gwasanaeth gyda chyfleusterau hunanarlwyo gan gynnwys cegin (hob/sinc/oergell/microdon) mewn lleoliad canolog, gyda’r pier a bwytai o fewn 2 funud.
Conwy
Dim ond y cynnyrch lleol gorau y mae'r Bistro yn ei ddefnyddio i greu prydau cartref. Rydym yn ymfalchïo yn ein cred mai dim ond y gorau fydd yn cael ei weini i'n gwesteion a'n nod yw rhoi profiad bwyta gwirioneddol gofiadwy i chi.
Conwy
Siop fach glud yng nghanol Conwy sy’n orlawn o anrhegion a dillad diddorol.