I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Croesawu'r Gaeaf yng Nghonwy!
Wrth i’r nosweithiau fyrhau, mae llwyth i edrych ymlaen ato yng Ngogledd Cymru. Paratowch am dân gwyllt, gwyliau, teithiau cerdded yn y goedwig a ryseitiau gaeafol blasus i dwymo’r enaid.
Mae’r gaeaf ar y ffordd! -
Estynnwch yr hetiau a’r menig o’r cwpwrdd - mae dechrau’r gaeaf yn amser bendigedig o’r flwyddyn. Rhai dyddiau ar ôl ffarwelio gyda phwmpenni’r hydref, a chadw’r gwisgoedd ffansi ofnus am flwyddyn arall, mae’n amser dathlu’r tymor newydd gyda bang. Bydd sioe dân gwyllt Llandudno yn goleuo Bae Llandudno ddydd Sul, 3 Tachwedd, 2024. Mae gan Fae Colwyn goelcerth a sioe dân gwyllt hefyd.
Paratowch ar gyfer y Nadolig yng Nghonwy
Mae noson tân gwyllt yn nodi cychwyn tymor y Nadolig. Os yw awyr llawn gwreichion yn ddigon i’ch gwneud chi siopa Nadolig, yna bydd trefi a phentrefi Conwy yn sicr o ysbrydoli - mae ganddynt lu o siopau bach hudolus sy’n cynnwys anrhegion crefft, cofroddion arbennig a chanfyddiadau gaeafol hardd.
Beth am ymlacio a rhoi hwb i’ch lles gyda seibiant yng Nghonwy y gaeaf hwn?
Beth am adfywio yn hytrach na diogi dros y gaeaf eleni? Ar benwythnos sba neu ffitrwydd, cewch fwynhau ymarfer corff ysgafn mewn pwll nofio heddychlon, rhoi hwb i’ch iechyd cardiofasgwlaidd yn y gampfa neu ymlacio mewn sawna, ystafell stêm neu ystafell ymlacio. Gyda phrysurdeb y Nadolig yn nesáu, dyma’r amser i sbwylio eich hun gyda thriniaethau harddwch a lles i baratoi ac adfywio’r croen.
Beth am dretio’ch hun i antur goginiol?
Mae’r gaeaf yn gyfnod i ymhyfrydu yn ein prydau a mwynhau blasau arbennig. Mae bwytai croesawgar a thafarndai cysurus Conwy’n berffaith i setlo i lawr gyda theulu a ffrindiau a dal i fyny dros bryd o fwyd blasus. Bydd bwydlenni’r gaeaf yn cynhesu’r enaid - gallwch fwynhau creadigaethau hyfryd yn cynnwys cynwysyddion tymhorol megis madarch, helgig a pherlysiau, a gaiff eu hela neu eu casglu weithiau gan y cogyddion eu hunain. Yn ogystal â hynny, ceir golygfeydd godidog o gefn gwlad a’r môr o nifer o’n bwytai hyfryd.
Dewch â’ch ci i Gonwy
Mae croeso i gŵn yn Sir Conwy bob amser. P'un a ydyn nhw’n rhedeg trwy goetiroedd rhewllyd neu’n rhedeg yn wyllt ar draeth enfawr sy’n croesawu cŵn fel Morfa Conwy, mae yna ddigon o bethau i wneud i gynffon eich cyfaill pedair coes ysgwyd yr adeg yma o’r flwyddyn.
Mae gan Gonwy ddigon o gaffis sy’n croesawu cŵn a lleoedd i aros hefyd. Mae gan Cantîn, y caffi yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, fwydlen arbennig ar gyfer cŵn, ac mae caffi Dudley & George yn Llandudno yn gwerthu trîts, teganau ac ategolion sy’n eco-gyfeillgar. Bydd ei sba trin cŵn ar y safle, Hotdogs Bathhouse, yn siŵr o blesio’r ci mwyaf craff.
Crëwch eich gaeaf eich hun ar benwythnos anturus yng Nghonwy
Pam na rowch chi gynnig ar rywbeth hollol wahanol? Mynydd Sleddog Adventures yw’r cwmni cyntaf, a’r unig un yng Nghymru i gynnig reid ar sled sy’n cael ei lusgo gan gŵn. Wedi’i leoli yng Nghoedwig Alwen, mae’r tîm yn cynnwys ystod o fridiau, megis Hysgi Siberia a Chŵn Sgandinafaidd. Maent wrth eu boddau’n rhedeg - a gydag olwynion ar eich sled, nid oes angen aros am eira.
Mae cyffro lu ym Mharc Cenedlaethol Eryri drwy’r flwyddyn. Ar ymweliad cyffrous i ogofau Go Below Underground Adventures ger Betws-y-coed, byddwch yn gwibio drwy geudyllau, dringo siafftiau fertigol a chroesi llyn tanddaearol. Gwych!
Codwch wydr i’r tymor
Os hoffech chi roi cynnig ar rywbeth arbennig i gynhesu’r corff, beth am flasu rhai o winoedd, gwirodydd a chwrw lleol Conwy? Maent wedi’u cynnwys ar restrau gwin a choctels y bwytai gorau i gyd, ac maent yn cyd-fynd yn berffaith â charcuterie, caws a hyd yn oed siocled artisan lleol. I ddysgu mwy, gallech archebu taith o amgylch distyllfa neu winllan neu gymryd rhan mewn dosbarth meistr creu wisgi neu gwrs hwyliog o gymysgu a chreu coctels i ddeffro eich blasbwyntiau. Neu, gallwch fwynhau gwydriad tawel a hamddenol. Iechyd da!
Conwy Clyd
Pan fyddwch yn dewis gwesty, llety, llety gwely a brecwast neu fwthyn ar gyfer gwyliau yn y gaeaf, ewch am rai steilus, ciwt a chlyd. Mae diwrnodau byrrach a thywydd anrhagweladwy yn golygu y byddwch yn awyddus i dreulio mwy o amser yn swatio dan do nag y byddech yn yr haf. Felly pam na wnewch chi sbwylio eich hun: archebwch rywle gwych, a gwnewch y mwyaf ohono.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl