P'un a ydych yn chwilio am dafarn diarffordd yn Eryri, tafarn ger yr afon yng Nghonwy neu far glan-môr yn Llandudno, rydych yn siwr o ddod o hyd i’r lleoliad perffaith yn ardal Conwy. Mae digonedd o dafarndai yn gwerthu cwrw casgen, yn cynnwys cwrw o fragdai lleol megis Bragdy Conwy, ac wrth gwrs mae nifer yn gweini bwyd da drwy’r dydd.
Mae gan Conwy ddewis da o dafarndai ‘gastro’ yn ogystal â bariau coctêls a gwîn ond mae’r dafarn ‘leol’ yma o hyd – man delfrydol i dorri’ch taith a mwynhau awyrgylch clyd sydd yn llawn cymeriad.
Mae nifer o dafarndai yn gweini bwyd drwy’r dydd ac yn cynnig y canlynol ar eu bwydlenni: ffefrynnau traddodiadol, prydau arbennig y dydd, cinio dydd Sul a phrydau yn defnyddio dewis eang o gynnyrch lleol gwych yr ardal, yn cynnwys Cregyn Gleision Conwy, Cig Oen Morfa Heli, mêl, hufen iâ a llawer mwy.
Mae tafarndai a bariau yng Nghonwy, Llandudno, Betws-y-Coed a’r ardaloedd cyfagos yn cynnig dewis eang o winoedd i’w mwynhau gyda phryd blasus, wrth eistedd mewn gardd dafarn, neu wrth ymlacio o flaen tanllwyth o dân agored.