Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi comisiynu Arwel Jones Associates a Menter Iaith Conwy i adnabod agweddau tuag at yr iaith Gymraeg fel y gallwn edrych ar ffyrdd newydd o wella profiad i’r ymwelwyr.
Mae astudiaethau'n dangos bod ymwelwyr ym mwynhau'r 'sioc diwylliannol' o ddod ar draws geiriau newydd ac y gall hyn wella eu profiad o le. Gall y defnydd o iaith roi ymdeimlad o ddilysrwydd a chreu cysylltiadau ystyrlon.
Fel rhan o’r prosiect hwn, rydym yn awyddus i ddeall canfyddiadau ymwelwyr o’r iaith Gymraeg yn Sir Conwy. Rydym wedi datblygu tri arolwg gwahanol ar gyfer y mathau canlynol o ymwelwyr:
· Ymwelwyr sydd ddim yn siarad Cymraeg
· Ymwelwyr sy’n dysgu Cymraeg
· Ymwelwyr sydd yn siarad Cymraeg
Gofynnwn ichi dreulio ychydig o funudau’n ateb yr holiadur byr hwn; dylai gymryd rhwng pump a deg munud i’w wneud. Cliciwch ar y ddolen uchod i weld y wybodaeth.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU dan Gronfa Adfywio Cymunedol ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy