Lleoedd i ymweld â nhw gyda chŵn yn Sir Conwy
Ydych chi’n meddwl dod i Ogledd Cymru gyda’ch ffrind pedair coes? Ydych chi’n chwilio am bethau i’w gwneud yma gyda’ch ci? Does dim rhaid edrych ymhellach! Rydyn ni wedi dod o hyd i nifer o westai, bythynnod, atyniadau a chaffis ar eich cyfer chi a’ch cyfeillion, y cŵn, i’w mwynhau.
Mwynhewch daith i Sir Conwy gyda’ch ci
Gallwch fynd i bob un o brif atyniadau’r rhanbarth gyda’ch cyfaill pedair coes. Mae amrywiaeth o atyniadau, gwestai a chaffis yn yr ardal sy’n rhoi croeso i gŵn drwy gydol y flwyddyn. Mae cyfyngiadau ar fynd â chŵn i draethau ar draws y sir hefyd yn dod i ben rhwng mis Hydref ac Ebrill, felly gallwch chi a nhw fwynhau mynd am dro ar y traeth yn yr hydref, y gaeaf a’r gwanwyn.
Lleoedd i fynd iddynt efo’ch...Darllen Mwy

Lleoedd i fynd iddynt efo’ch cyfaill pedair coes
Ewch ar daith i Landudno ac i fyny’r Gogarth. Gallwch gyrraedd y copa trwy fwynhau am dro gyda’ch ci ar un o’r llwybrau ato, neu gadw eich nerth trwy deithio yno ar y tram. Mae croeso i gŵn ar y tram am gost fechan o £1. Pan fyddwch ar y copa, anelwch am Fwyngloddiau Copr y Gogarth ac ewch i grwydro’r twnelau sy’n 3,500 oed.
Ar ôl i chi grwydro’r Gogarth, ewch yn ôl i’r dref ac i dafarn y King’s Head i fwynhau tamaid i’w fwyta. Dyma dŷ tafarn hynaf Llandudno ac mae croeso i gŵn yn y rhan o’r dafarn sydd heb ei charpedu.
Am brofiad cwbl unigryw i chi a’r ci, ewch i Pet Place yn Abergele lle gall eich ffrind bach blewog redeg o amgylch y parc i gŵn, gwylio ffilm yn y sinema i gŵn a mwynhau llwyth o bethau da o’r siop sydd ar y safle!
Arhoswch yma am gyfnod hirach yn un o’r bythynnod neu westai sy’n croesawu cŵn yn Llandudno, Conwy, Llandrillo-yn-Rhos neu Fae Colwyn. Mae digon i ddewis o’u plith ar draws y sir.
Lluniwch eich amserlen
Mae cymaint o dafarndai, darparwyr llety ac atyniadau sy’n rhoi croeso i gŵn yn Sir Conwy, ni fyddwch chi a’ch ci yn gwybod pa un i’w ddewis! Porwch drwy ein rhestr o lety a phethau i’w gwneud yn yr ardal, a dechreuwch greu amserlen i chi a’ch ci ei mwynhau. Gallwch ddefnyddio ein teclyn cynllunio gwyliau defnyddiol i’ch helpu.
Darllen Llai