Am
Wedi'i adeiladu ym 1884, mae Plas Penaeldroch Manor wedi bod yn westy ers dros 30 mlynedd. Wedi’i leoli yng nghanol Eryri, mae’r Afon Lledr yn rhedeg heibio drws ffrynt y Maenordy. Perffaith ar gyfer y sawl sy’n caru natur a hanes, mae Plas Penaeldroch Manor yn Nolwyddelan, lle arwyddocaol iawn i Dywysogion hynafol Cymru.
Mae Plas Penaeldroch Manor yn cynnwys ystafelloedd bendigedig gyda golygfeydd godidog o’r mynyddoedd, afonydd a choedwigoedd cyfagos. Mae’n cynnwys brecwast a gellir ei gael yn eich ystafell ar gais. Mae Wi-Fi ar gael ac mae yna ddigon o le parcio i ymwelwyr.
Mae yna gaffi bendigedig ym Plas Penaeldroch Manor hefyd. Archwiliwch hanes a golygfeydd godidog Eryri cyn dychwelyd am fowlen o gawl cartref blasus cwbl haeddiannol.
Gellir archebu drwy wefan y Maenordy (https://www.penaeldroch.co.uk/). Yn yr un modd, gallwch gysylltu â’r gwesty dros y ffôn, 01690 750316.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 1
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Plas Penaeldroch Manor | o£150.00 i £170.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
*Swît o ystafelloedd yn cynnwys 1 ystafell wely brenin, 1 ystafell wely twin, 1 ystafell eistedd a 2 ystafell ymolchi, lle i 5 oedolyn neu 6 oedolyn/plant.
Cyfleusterau
Arall
- Parcio preifat
- Wireless internet
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael