I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Archwilio
Ni fydd angen i chi deithio’n bell yma – ond mae byd cyfan o brofiadau ar gael i archwilwyr. Dyna sy’n braf am Sir Conwy.
Fe welwch draethau tywodlyd a phentiroedd tal, dyffrynnoedd a mynyddoedd gwyrdd, rhosydd grug, llynnoedd a choedwigoedd... y cyfan wedi’i lapio’n daclus ac yn hawdd ei gyrraedd.
O dyrrau Castell Conwy, sy’n Safle Treftadaeth Y Byd, gallwch weld yn ddwfn i mewn i Sir Conwy. Mae Eryri dafliad carreg i ffwrdd. Mae dyffryn glaswelltog a hyfryd afon Conwy yn ystumio o’r mynyddoedd i lawr i’r môr wrth sylfeini’r castell. Gerllaw fe ddowch o hyd i fynydd agored Hiraethog sy’n ysgogi’r enaid ac yna llennyrch a llynnoedd cudd Parc Coedwig Gwydir.
Efallai bod Llandudno a Bae Colwyn yn gymdogion cyfeillgar, ond mae gan y ddwy dref bersonoliaethau unigryw eu hunain. Maent yn lleoliadau gwych i ddechrau archwilio cefn gwlad a’r arfordir, yn ogystal â phentref ddeiliog Betws-y-Coed sy’n lleoliad llawn bwrlwm ac atyniadau.
Dewch i archwilio amser yn ogystal â lle
Mae ein hatyniadau diwylliannol yr un mor amrywiol. Galwch heibio i Ganolfan Ddiwylliant newydd Conwy i ddechrau. Yna ewch ymlaen i safleoedd a gerddi hanesyddol, amgueddfeydd ac orielau celf. Gadewch i’r llwybrau treftadaeth fynd â chi i safleoedd cysegredig a henebion diwydiannol, strydoedd canoloesol a phromenadau Fictoraidd.
Mae ein theatrau a’n sinemâu yn dangos popeth o hen ffefrynnau i gomedi amgen, tirweddau clasurol i weithiau celf cŵl a chyfoes. Y cymysgedd hapus hwn o draddodiadol a modern yw dilysnod Sir Conwy. Caiff ein hunaniaeth unigryw ei r
clymu gan y Gymraeg, sy’n iaith fyw, flaengar a ffyniannus yn yr ardal hon. Mae ein diwylliant bwyd yn defnyddio cynhwysion lleol traddodiadol fel cig oen, cig eidion a bwyd y môr i greu prydau arbennig sy’n cyd-fynd â chwaethau heddiw.
Allan â Chi
Mae llawer o bethau i'w harchwilio yn yr awyr agored hefyd. Gallwch fwynhau gweithgareddau ar dir a dŵr (beicio mynydd a syrffio, cerdded a gwibio ar wifren sip... i enwi dim ond rhai). Ewch i wylio bywyd gwyllt a physgota, chwarae golff a beicio.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl