Nifer yr eitemau: 47
, wrthi'n dangos 41 i 47.
Llandudno
Cwrs golff antur/mini 18 twll y tu allan i Ganolfan y Copa. Cwrs heriol i bob grŵp oed.
Towyn
Am rywbeth ychydig yn wahanol beth am y wefr o rasio harnes arddull Americanaidd yn Nhir Prince?
Colwyn Bay
Mae Canolfan Tenis James Alexander Barr wedi'i lleoli ym Mharc Eirias ac mae'n cynnig 2 gwrt tenis braf dan do a 4 cwrt awyr agored. Gall hyfforddwyr ac unigolion fel ei gilydd archebu'r cyrtiau hyn.
Betws-y-Coed
Mae Zip World Fforest wedi’i leoli yng nghanol harddwch Dyffryn Conwy, ychydig y tu allan i bentref Betws-y-coed. Gyda chwe antur sy’n berffaith ar gyfer rhai o sawl gwahanol oed (yn dechrau o 3 i fyny).
Corwen
Trac certio #1 Redbull yn y DU! Cyfle i chi gael modd i fyw mewn mannau agored eang, yng nghanol Gogledd Cymru. Ar agor ym mhob tywydd drwy’r flwyddyn.
Llandudno
Ewch ar siwrnai siocled sy’n rhychwantu 5,000 o flynyddoedd. Gan ddechrau mewn cwt Maiaidd, byddwch yn gwehyddu eich ffordd drwy naw cyfnod, gan archwilio sut mae siocled wedi dod yn rhan mor annatod o’n cymdeithas.
Conwy
Ar lan afon Conwy, ger Castell Conwy, mae Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy yn llawn hanes a straeon gwych. Yn archwilio treftadaeth a thraddodiadau’r dref, mae perthynas Conwy gyda’r afon a’r cregyn gleision yn mynd yn ôl i oes y Rhufeiniaid.