I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Diwylliant > Y Gymraeg
COFIWCH EICH CYMRAEG
Y Gymraeg yw un o ieithoedd byw hynaf Ewrop, sy’n sylfaen i ddiwylliant a threftadaeth cyfoethog. Fe welwch y Gymraeg ar arwyddion dwyieithog ym mhob man. Mae dros chwarter o boblogaeth Sir Conwy yn siaradwyr Cymraeg, felly fe glywch yr iaith yn cael ei siarad ar ein strydoedd, yn ein trefi a’n pentrefi, ochr yn ochr â’r Saesneg wrth gwrs.
Ymhlith pethau eraill, mae’r iaith delynegol hon yn gwneud Cymru yn wahanol. Ni ddylai achosi unrhyw broblemau na dryswch i chi. Yn wir, gall rhoi cynnig ar siarad yr iaith a thrin a thrafod y gwahanol ynganiadau fod yn llawer o hwyl. Mae’n werth gwneud yr ymdrech, hyd yn oed os ydych ond yn llwyddo i ddweud ychydig o eiriau.
Mae'r iaith hefyd yn datgelu llawer - hynny yw gall enwau lleoedd Cymraeg ddweud llawer wrthych am yr ardal gyfagos. Er enghraifft mae’r gair Llan, fel yn Llanrwst neu Llandudno, yn dangos bod eglwys neu anheddiad crefyddol yn bodoli yno. Mae Aber yn golygu ‘ceg yr afon’ – felly mae Abergele yn golygu ‘Ceg yr Afon Gele’. Pan welwch y gair Llyn ar fap, chwiliwch am y llyn. Os oes mynydd o flaen enw, bydd gennych fynydd i’w ddringo.
Dyma ychydig o eiriau Cymraeg i’ch helpu i greu darlun o le:
afon river
bach, fach small
blaen head, end, source
bryn hill
bwlch pass
cefn ridge
craig, graig rock
cwm valley, cirque
dinas fort, city
du, ddu black
dyffryn valley
glyn glen
llan church, enclosure
llyn lake
maen stone
mawr, fawr great, big
moel, foel bare hill
mynydd, fynydd mountain, moorland
pentre village, homestead
pont, bont bridge
ystrad valley floor
A dyma ychydig o gyfarchion:
good morning bore da
good afternoon prynhawn da
good evening noswaith dda
good health!/cheers! iechyd da!
good night nos da
hello shwmae
how are you? sut mae?
thanks diolch
very good da iawn
welcome croeso
welcome to Wales croeso i Gymru
Yr ‘Ll’ a’r ‘Dd’
Mae dwbwl ‘l' (fel yn Llandudno) a dwbl 'd' (fel yn mynydd) yn codi yn aml yn y Gymraeg. Nid ydynt yn anodd i’w ynganu. I ynganu ‘ll' rhowch eich tafod y tu ôl i’ch dannedd uchaf ac anadlwch allan neu hisiwch heibio i'ch dannedd. Mae dwbl ‘d’ hyd yn oed yn haws – mae fel sŵn ‘th’ yn Saesneg.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl