Am
Mae’n rhaid dringo allt serth drwy’r coetir (200tr/60m) ar ddechrau’r gylchdaith gymhedrol hon drwy Goedwig Gwydir. Yna, mae’r llwybr yn mynd yn fwy gwastad a gallwch fwynhau golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri. Dilynwch y gwyriad byr (wedi’i arwyddo) i weld golygfa heb ei hail dros Eryri - dyma le gwych i gael picnic hefyd. O’r fan hon, mae’r llwybr yn llawer haws a gallwch ddychwelyd i lawr yr allt i’r man cychwyn yng Nghae'n y Coed. Hyd y daith: 2 milltir/3.3 cilomedr.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad