The Good Soap

Am

Mae The Good Soap wedi’i leoli yn Neganwy, Conwy. Mae ein holl sebonau ac eitemau gofal croen yn naturiol ac wedi’u gwneud â llaw heb greulondeb yn ein gweithdy gardd, sy’n edrych dros afon Conwy. Nid yw’r holl nwyddau a gynhyrchwn yn cynnwys plastig, ein cenhadaeth yw helpu i gael gwared ar gynwysyddion plastig o ystafelloedd ymolchi. Mae gennym ystod eang o eitemau ar gyfer y teulu cyfan. Rydym yn gwneud bariau sebon a siampŵ, bariau diarogli solet, bariau solet lleithio’r croen, lleithyddion mewn tun, balmau gwefusau, sebonau babanod, sebonau halen, sebonau llaeth a mwy, a’r cyfan o safon.

Gallwch archebu ar-lein trwy ein gwefan, rydym yn postio ar draws y DU ac yn cynnig postio am ddim ar archebion dros £25. Porwch ein gwefan a chysylltwch os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch. Gallwch e-bostio dawn@the-good-soap.co.uk

Cyfleusterau

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus

Cynigion Arbennig Cysylltiedig

  • Mae casgliad Nadolig poblogaidd o sebonau a chynnyrch gofal croen The Good Soap yn ôl ar gyfer 2024! Mae’r holl gynnyrch, sy’n addas fel anrhegion i eraill neu i chi eich hun, yn 100% naturiol ac wedi eu cynhyrchu heb greulondeb a hynny â llaw yn Neganwy. Gallwch eu prynu’n unigol neu mewn casgliad a gellir eu dosbarthu i chi yn gyflym neu gallwch eu casglu’n lleol. Dewiswch o sebonau, hufennau i’r croen, balmau gwefus, hufennau sgrwbio a llawer mwy.

    Christmas - redeem this special offer from 10/10/2024

    Dolen y cynnig:Christmas

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

The Good Soap

Deganwy

Amseroedd Agor

Ar agor (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....