I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Syniadau ac Ysbrydoliaeth > Awyr Dywyll
AWYR DYWYLL
Mae syllu i fyny i'r gofod di-ben-draw gyda'i leuadau a'i blanedau, ei sêr a'i galaethau yn brofiad cwbl ryfeddol. Ond yn aml iawn nid yw'n ddigon tywyll i weld llawer. Mae llygredd golau mewn trefi a dinasoedd yn gwneud awyr y nos yn llai clir.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae syllu ar sêr – a oedd yn arfer bod yn faes arbennig ar gyfer seryddwyr a gwylwyr rhaglen y BBC Sky at Night - wedi dod yn fwyfwy poblogaidd. Ond mae angen Awyr Dywyll arnoch i allu gwneud hynny’n iawn.
Dyma sut gallwn ni helpu. Mae Cymru, sy’n wlad wledig iawn gydag ychydig o grynodiadau poblogaeth mawr, yn un o’r lleoliadau tywyllaf yn Ne Prydain sy’n creu amodau delfrydol ar gyfer archwilwyr y gofod. Fel y disgrifiodd Dylan Thomas yn ‘Dan y Wenallt’, mae’r awyr yng Nghymru ‘cyn dywylled a’r Beibl'.
Mae hyn yn bendant yn wir yn Sir Conwy. Ar noson ddi-gwmwl i fyny ar ein bryniau a’n mynyddoedd cewch eich hamgylchynu gan flanced o dduwch sy’n arddangos sioeau golau wybrennol rhyfeddol. Mae’n rhywbeth y gallwch ei werthfawrogi bron yn unrhyw le. Dyma ychydig o’n hoff leoliadau.
Llyn Geirionydd a Llyn Crafnant
Mae’r ddau lyn yma sydd wedi’u hamgylchynu gan goed yn eistedd yn uchel uwchben Trefriw yn Nyffryn Conwy, a’r unig ffordd o’u cyrraedd yw ar hyd is-ffordd gul. Ond mae’n werth gyrru i fyny yno am y llonyddwch pur ac i weld awyr y nos ar ei orau.
Penmachno a thu hwnt
Ewch ar hyd y ffordd i’r de o bentref Penmachno a daliwch i fynd. Mae’n dringo i fyny bwlch serth i rostir agored uwchben Ffestiniog. Mae’r awyr – sy’n fawr yng ngolau dydd – yn ymddangos hyd yn oed yn fwy ar ôl iddi hi dywyllu.
Tŷ Cipar
Mae’r hen dŷ ciper diarffordd hwn yn yr un ardal gyffredinol a'r lleoliad blaenorol. Mae’n uchel ar rostir corslyd y Migneint ar y B4407 tua 4 ½ milltir i’r de-orllewin o Ysbyty Ifan a 5½ milltir i'r de-ddwyrain o Ffestiniog.
Mynydd Hiraethog
Os ewch i ben mynydd gwyllt a gwag Hiraethog (unrhyw le ger cronfa ddŵr Llyn Brenig) ar noson dywyll, byddwch yn siŵr o weld sêr.
Cyngor i archwilwyr y gofod
Nid oes angen offer arbenigol na drud arnoch chi. Yn aml dim ond eich llygaid neu finocwlars fydd ei angen arnoch chi.
Wrth edrych tua'r de, yn dibynnu ar y tymor, gallwch weld Orion yr Heliwr, yr Efeilliaid, Siriws, y Saith Chwaer, Triongl yr Haf, yr Alarch, sgwâr Pegasws a'r Llwybr Llaethog (ein galaeth ein hun).
Wrth edrych tua’r gogledd, mae’r sêr yr un fath trwy gydol y flwyddyn, felly gallwch eu gweld yn hawdd ar noson glir. Mae grŵp o sêr o'r enw'r Aradr neu’r Sosban yn arbennig o hawdd i'w hadnabod. Y lleill yw Cassiopeia ac, wrth gwrs, Seren y Gogledd (neu Polaris).
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl