I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Syniadau ac Ysbrydoliaeth > Llwybr Arfordir Cymru
Castell tywod a chastell go iawn yn nhref ganoloesol Conwy.
Os nad oedd Cymru ar fap cerddwyr y byd o’r blaen, mae’n sicr wedi ennill ei lle arno erbyn hyn.
Pan agorwyd Llwybr Arfordir Cymru yn 2012 – yr unig un o’i fath ar y blaned – enillodd llu o anrhydeddau.
Yn ôl arweinlyfr The Lonely Planet, roedd arfordir Cymru ar frig y rhestr ‘Teithiau Gorau’, gan ennill y blaen ar gystadleuwyr o Dde a Gogledd America, Seland Newydd, Affrica ac India.
Mae’r llwybr yn 870 milltir o hyd.
Peidiwch â phoeni, does dim disgwyl i chi gerdded ar ei hyd ar unwaith.
Bydd y rhan fwyaf o gerddwyr yn dewis darn bach o’r gacen.
Felly, beth allwch chi ddisgwyl ei weld ar ein darn ni o’r llwybr?
Cerddwch i gyfeiriad y gorllewin o Fae Cimel a byddwch yn cerdded wrth ochr un o draethau tywod hiraf Gogledd Cymru i Dowyn a thu hwnt.
Traeth euraid Pensarn yw un o’n cyfrinachau pennaf – anaml iawn y bydd y lle’n brysur.
Yna, ymlaen i Fae Colwyn. Mae’r traeth hwn hefyd yn hollol wych. Hefyd, yn ddiweddar iawn, crewyd traeth di-lanw artiffisial newydd sbon yma ynghyd ag amddiffynfa fôr.
Dilynwch y promenâd yr holl ffordd i bentref prydferth a thawel Llandrillo-yn-Rhos, yna ymlaen dros benrhyn Trwyn y Fuwch (gwych ar gyfer darganfod bywyd gwyllt) i Landudno a’r Gogarth (hyd yn oed yn well ar gyfer bywyd gwyllt, yn ogystal â safleoedd hanesyddol difyr).
Nesaf, dewch at aber Afon Conwy â’r mynyddoedd yn y cefndir a thref ganoloesol eithriadol Conwy, ei chastell Safle Treftadaeth y Byd a golygfeydd i gyfeiriad Eryri.
Ymlaen ar hyd yr arfordir, â’r mynyddoedd unwaith eto yn gefnlen drawiadol, i Benmaenmawr a Llanfairfechan, dwy gyrchfan glan-môr Fictoraidd hyfryd.
Gallwn gynnig dewis o lwybrau i chi yn y fan hyn – o Gonwy i Lanfairfechan, mae’n bosibl dilyn llwybr gwahanol i gyfeiriad y mynyddoedd.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl