I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Syniadau ac Ysbrydoliaeth > Priodasau
Priodasau a phartneriaethau sifil yn Sir Conwy
Ydych chi’n chwilio am y lle arbennig hwnnw i briodi yng ngogledd Cymru? Mae Sir Conwy yn gartref i rai o leoliadau priodasau harddaf a mwyaf dymunol y byd. O dai hanesyddol hudolus i leoliadau glan môr ar hyd arfordir y gogledd, mae lleoliad i weddu pob cwpl sy’n awyddus i glymu’r cwlwm priodasol.
Golygfeydd hudol, lleoliadau hudolus a phecynnau fforddiadwy
Mae Sir Conwy’n cynnwys rhai o olygfeydd mwyaf delfrydol y byd. Mae’r tirluniau darluniadol a golygfeydd ysblennydd o’r môr yn gefnlen odidog ar gyfer lluniau priodas – felly bydd atgofion eich diwrnod arbennig yn edrych hyd yn oed yn fwy hudol. Hefyd, gyda detholiad mawr o leoliadau rŵan yn cynnig pecynnau priodas fforddiadwy, mae mwy fyth o reswm o briodi yn sir Conwy.
Chi piau’r dewis
Dychmygwch briodi mewn tŷ hanesyddol rhamantus o’r 18fed ganrif wedi’i amgylchynu gan dirlun darluniadol, neu ddweud ‘gwnaf’ mewn lleoliad Fictoraidd cyn camu allan i fwynhau golygfeydd ysblennydd o lan y môr. Dychmygwch eich holl westeion yn mwynhau'r bwyd gorau o Gymru a diodydd lleol. Mae hyn a mwy ar gael mewn amryw o leoliadau ledled y sir.
Os mai priodas mewn tŷ hanesyddol moethus yn Neuadd Bodysgallen rydych yn ei dymuno, neu os byddai’n well gennych briodi mewn ysgubor wladaidd a dymunol ar Fferm Bodafon, chi piau’r dewis! Hefyd, unwaith eich bod yn gwpl priod, beth am fanteisio ar y cyfle i fwynhau eich mis mêl yng Nghonwy i fwynhau mwy o’r rhan brydferth hon o’r byd.
Dechreuwch gynllunio heddiw
Porwch drwy ein rhestr o leoliadau a darganfod mwy am y llefydd sy’n ateb eich gofynion. Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch am unrhyw un o’r lleoliadau neu os hoffech chi wybod mwy am gyflenwyr priodasau lleol, gwenwch yn siŵr eich bod yn dod i un o’r ffeiriau priodas sydd i ddod yn yr ardal. Mae rhestr lawn o ddyddiadau i’r dyfodol ar gael ar ei tudalennau digwyddiadau.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl