Am
Mae’r daith gron 3.5 milltir (5.5 cilomedr) hon yn un o gyfres o deithiau cerdded o dref Llanrwst.
Mae’r daith yn arwain drwy goetir i ddatgelu golygfeydd godidog o fynyddoedd y Carneddau a Dyffryn Conwy. Yn y gwanwyn a’r haf gallwch weld blodau gwyllt megis clychau’r gog, blodyn neidr a garlleg gwyllt, yn ogystal â glöyn byw brych y coed a’r dylluan fach.
Mae’r daith yn dechrau yn Ffordd Nebo.
Mae’r llwybr yn hawdd gyda dringfeydd a disgyniadau cymhedrol ar balmentydd, lonydd gwyrdd, traciau a lonydd.
Mae lluniaeth ar gael o’r siopau a’r tafarndai lleol yn Llanrwst.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Suitability
- Teuluoedd