Am
Traws Eryri: Antur beicio mynydd 125 milltir newydd Conwy
Gan groesi calon Eryri arw, olygfaol, Traws Eryri yw llwybr beicio pellter hir mwyaf cyffrous yr ardal. Anghofiwch y ffordd, a dechreuwch ar yr antur.
Wedi’i lansio ym mis Awst 2023 gan Cycling UK, mae llwybr Traws Eryri yn daith epig oddi ar y ffordd, sy’n cysylltu Machynlleth ym Mhowys â Chastell Conwy ar hyd llwybrau coedwig, llwybrau ceffylau a ffyrdd tawel. Yn wahanol i Lwybr 8 Sustrans, sy’n aros ar hyd yr arfordir, mae’n crwydro’n ddwfn i galon Eryri. Wrth feicio drwy goedwigoedd ysblennydd, mynyddoedd a thirweddau glan y dŵr, byddwch yn mynd heibio Aber Mawddach, Coed y Brenin, Betws-y-Coed a Bethesda.
Gyda dringfeydd serth a thir gwyllt, heriol, nid yw ar gyfer y gwangalon. Heb os, bydd angen beic cadarn â gêrs isel arnoch chi. Ond mae’r golygfeydd yn gwbl anhygoel.
Os ydych chi’n weddol ffit ac awydd cwblhau’r llwybr cyfan ar yr un pryd, fe allech chi gwblhau’r llwybr mewn tri diwrnod. Fel arall, gallech chi roi cynnig ar ran ohoni. Mae yna hefyd ddigon o gyfleoedd i ddargyfeirio, gan roi cynnig ar rai o lwybrau technegol mwyaf gwefreiddiol Gogledd Cymru.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cycling UK.
Ble i aros
Beth am aros yng Nghonwy i deimlo'n ffres ac yn barod ar ddechrau eich taith, neu i fwynhau seibiant haeddiannol ar y diwedd. Mae llety rhesymol lle gallwch gadw eich beic yn y dref ac o’i chwmpas. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Ble i fwyta ac yfed
Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o egni drwy fwyta yn lleoliadau bwyta ac yfed ardderchog Conwy. Mae Dylan’s newydd ar Stryd Fawr Conwy yn cynnig bwyd o ansawdd uchel sy’n addas i deuluoedd, ac mae’r Michelin Guide yn argymell Jackdaw ar y Stryd Fawr a Signatures yn Aberconwy Resort & Spa. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad