TEITHIAU CYSEGREDIG
Yn gryno. Drysau annisgwyl i’n gorffennol.
Pwy ddywedodd mai cestyll yw hanfod pob hanes? Mae eglwysi a chapeli Conwy wledig yr un mor ddiddorol – cyn belled â’ch bod yn gwybod ble i chwilio.
Dyma ogoniant prosiect Drysau Cysegredig. Mae’r prosiect yn cynnwys cyfres o deithiau i eglwysi a chapeli gan gyflwyno miloedd o flynyddoedd o hanes a threftadaeth. Un elfen o’r stori yn unig yw crefydd. Trwy ddilyn teithiau’r Drysau Cysegredig gallwn ddysgu am ddynion drwg yn ogystal â dynion sanctaidd, pendefigion yn ogystal â phererinion, lladron yn ogystal â llenorion.
Mae pedair taith wedi’u lleoli yng Nghonwy wledig – Hiraethog Gysegredig, Eryri Gysegredig, Teyrnas Gysegredig a Thirwedd Gysegredig – maen nhw wedi’u cyflwyno mewn pedwar clwstwr twt er mwyn i chi eu darganfod yn hawdd mewn car neu ar hyd llwybrau cerdded dynodedig.
Beth sy’n cael ei ddatgelu? Byddech yn synnu. Mae yma eglwys hardd a ysbrydolodd y bardd William Wordsworth, er enghraifft. Cysylltir disgynyddion un o Arlywyddion America ag eglwys arall. Mae draig chwedlonol yn cuddio yn nhrawstiau un eglwys. A cheir llawer iawn o atgofion am Dywysogion Gwynedd, yr arweinwyr dylanwadol canoloesol.
Yn ychwanegol, mae’r teithiau yn eich arwain drwy dirlun prydferth cuddiedig i drefi a phentrefi anghysbell na fyddech efallai wedi ystyried ymweld â nhw. Dechreuwch eich taith yma gan lawrlwytho teithiau’r Drysau Cysegredig.